Disgrifiad caffael
System Fwyd Cynaliadwy - Llwglyd dros y Gwyliau a Gwytnwch Bwyd Cymunedol
Mae Cyngor Sir y Fflint yn dymuno penodi darparwr profiadol ac addas i ddylunio, gweithredu a chyflwyno system fwyd cynaliadwy ac sydd heb ei brosesu’n helaeth ledled y Sir.
Mae’r broses gaffael hon yn ffurfio rhan bwysig o ddull ehangach y Cyngor at fynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd, gwella canlyniadau iechyd deietegol, a chryfhau gwytnwch cymunedol hirdymor.
Trosolwg o’r Contract
Bydd angen i’r Darparwr llwyddiannus:
- Gyflwyno cynnig bwyd fforddiadwy, maethlon ac sydd heb ei brosesu’n helaeth
- Darparu bwyd gydol y flwyddyn, gan ddarparu mwy yn ystod cyfnodau gwyliau’r ysgol
- Bod yn weithredol am gyfnod cychwynnol erbyn canol mis Gorffennaf 2026 i gefnogi darpariaeth dros wyliau’r haf
- Datblygu a gweithredu model ariannol sydd yn gynaliadwy gan leihau cyllid y Cyngor o Flwyddyn 1 (£400,000) i £0 erbyn Blwyddyn 5.
- Gweithio’n gydweithredol gyda sefydliadau cymunedol, cyflenwyr lleol a phartneriaid sector cyhoeddus.
- Fe fydd y contract yn dechrau ar 1 Mehefin 2026 a bydd yn para am gyfnod o bum mlynedd gydag opsiwn o’i ymestyn am 2 flynedd arall i 31/05/2033 ar yr amod bod model ariannu arall yn cael ei roi ar waith gan y contractwr.
Amcanion Strategol
Mae’r Cyngor yn chwilio am ddarparwr sydd yn gallu:
- Sefydlu dull system gyfan o ran mynediad at fwyd
- Gwella iechyd a lles drwy fwyd o safon uchel sydd heb ei brosesu llawer
- Cryfhau cadwyni cyflenwi lleol a manteisio ar fudd economaidd lleol
- Cyflwyno effaith cymdeithasol ac amgylcheddol y gellir ei fesur
- Adeiladu capasiti cymunedol a lleihau dibyniaeth hirdymor
Proffil Ariannu
Mae’r contract hwn wedi'i strwythuro o amgylch model ariannu sy’n meinhau. Bydd cyllid y Cyngor yn lleihau’n flynyddol dros gyfnod o bum mlynedd. Rhaid i’r rhai sy’n bidio ddangos cynaliadwyedd ariannol credadwy a gallu arallgyfeirio incwm er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau’n hyfyw y tu hwnt i 5 mlynedd.
Sustainable Food System - Holiday Hunger & Community Food Resilience
Flintshire County Council is seeking to appoint a suitably experienced provider to design, mobilise and deliver a sustainable, Ultra-Processed Food (UPF) free food system across the County.
This procurement forms a key part of the Council’s wider approach to tackling food insecurity, improving dietary health outcomes, and strengthening long-term community resilience.
Contract Overview
The successful Provider will be required to:
- Deliver an affordable, nutritious, UPF-free food offer
- Provide year-round access, with enhanced delivery during school holiday periods
- Mobilise an initial operational phase by mid-July 2026 to support summer holiday provision
- Develop and implement a financially sustainable model reducing Council funding from Year 1 (£400,000) to £0 by Year 5
- Work collaboratively with community organisations, local suppliers and public sector partners
- The contract will commence on 1 June 2026 and will run for a period of five years with an option to extend for a further 2 years to 31/05/2033 subject to alternative funding model being put in place by the contractor.
Strategic Objectives
The Council is seeking a provider that can:
- Embed a whole-system approach to food access
- Improve health and wellbeing through high-quality, minimally processed food
- Strengthen local supply chains and maximise local economic benefit
- Deliver measurable social and environmental impact
- Build community capacity and reduce long-term dependency
Funding Profile
This contract is structured around a tapered funding model. Council funding will reduce annually across the five-year term. Bidders must demonstrate credible financial sustainability and income diversification to ensure the service remains viable beyond Year 5.