Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Prif dudalen newyddion

Dyfodol Adeiladu Cymru – helpu busnesau adeiladu i dyfu

Gall Dyfodol Adeiladu Cymru (CFW), sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), helpu eich cwmni adeiladu i ddeall yr heriau y mae'n eu hwynebu wrth symud ymlaen gan sicrhau bod gan eich busnes yr adnoddau i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Lansiwyd Dyfodol Adeiladu Cymru’n gynharach yn y flwyddyn, mae yn cynnig cymorth targedig ar gyfer cwmnïau adeiladu gan ganolbwyntio ar faterion cymorth sy’n effeithio’n unigryw ac yn uniongyrchol ar y sector. Gellir cael mynediad at gymorth busnes cyffredinol, fel cyngor ar ddechrau busnes, marchnata, adnoddau dynol neu gyfrifeg, trwy wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru ar www.busnes.cymru.gov.uk Am fwy o wybodaeth ewch i wefan newydd Dyfodol Adeiladu Cymru’n neu ffoniwch 03000 6 03000.