Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Energy Europe, Brwsel – 6 - 10 Tachwedd 2016

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mai 2016
Diweddarwyd diwethaf:
07 Mawrth 2024
Mae Uned Ynni Cymru yn gweithio gyda’n tîm Teithiau Masnach i drefnu taith fasnach i’r gynhadledd uchod ar ynni’r môr ym Mrwsel. Cefndir: Cynhadledd Ocean Energy Europe (OEE) yw un o’r digwyddiadau pwysicaf yn Ewrop ym maes ynni’r môr. Bydd yn gyfle i rwydweithio, i hyrwyddo’ch cwmni ac i gwrdd â phenderfynwyr, arloeswyr syniadau, buddsoddwyr a phobl fusnes fwyaf dylanwadol y sector. Daeth rhyw 400 o gynrychiolwyr ynghyd yn 2015 ar gyfer y gynhadledd yn Nulyn, gyda thros 50 o gyrff yn arddangos ac yn cynrychioli ystod eang o ddiddordebau. Cynhaliwyd nifer o weithgareddau: • Cyfarfu Bwrdd Lefel Uchel Fforwm Ynni’r Môr yn fframwaith y gynhadledd, gyda Chomisiynydd yr UE a 2 Weinidog Ynni o’r UE yn bresennol, ynghyd â chynrychiolwyr o lefelau ucha’r diwydiant. • Cafodd amrywiaeth o fân ddigwyddiadau eu cynnal o gwmpas y gynhadledd, gan ehangu cwmpas y gynhadledd a chynyddu ei gwerth i’r cynrychiolwyr. • Bu gwleidyddion pwysig ac aelodau blaenllaw’r diwydiant yn cymryd rhan yn rhaglen y gynhadledd. Cynhadledd 2016: Mae cynnal y digwyddiad ym Mrwsel yn hwb strategol i’r sector. Trwy ddod â’r gynhadledd i brifddinas yr UE, bydd OEE 2016 yn llwyfan i’r diwydiant cyfan gerbron penderfynwyr yr UE fydd yn diffinio polisi a phatrymau ariannu’r dyfodol. Bydd Ocean Energy Europe 2016 yn cynnwys: • 400 o gynrychiolwyr o’r diwydiant a sefydliadau ymchwil a gwleidyddol. • Cynrychiolaeth ragorol o sefydliadau’r UE a llywodraethau gwledydd yr UE. • Cysylltiadau clos â chyfarfod terfynol fforwm Ynni’r Môr. • Dros 50 o gwmnïau’n arddangos. • Sgil-ddigwyddiadau i estyn cyfleoedd dysgu a rhwydweithio. • Cinio Gala Rhwydweithio. Rydym hefyd yn gobeithio trefnu diwrnod o gyfarfodydd rhwydweithio a briffio i’r diwydiant cyn y digwyddiad ei hun ichi gael y gorau o’r digwyddiad ac i ategu’r gweithgareddau y bydd yr OEE yn eu cynnig yn ystod deuddydd y gynhadledd. Ymhlith y cyrff a gaiff eu targedu fydd Comisiwn yr UE, Banc Buddsoddi Ewrop, grwpiau Ynni’r Môr ac Ynni Adnewyddadwy o fewn yr UE a chronfeydd ariannu ymchwil a datblygu gan gynnwys Horizon 2020. Gall Llywodraeth Cymru hefyd helpu’ch busnes i drefnu cyfarfodydd yn ystod y digwyddiad naill ai â chwmnïau tebyg eu hanian neu â darpar gwsmeriaid trwy ein rhaglenni helpu allforwyr. Y cynnig: Rydym yn eich gwahodd i Ddatgan eich Diddordeb i ymuno â ni ar y daith fasnach hon. Bydd y Datganiad o Ddiddordeb yn cael ei werthuso a bydd ein cynnig terfynol yn cynnwys naill ai: Pecyn A: Stondin Arddangos a Thaith Fasnach: Fel rhan o’n presenoldeb yno, rydym yn gobeithio recriwtio cwmnïau/sefydliadau o Gymru i gyd-arddangos â ni; a byddwn yn gallu cynnig y pecyn canlynol i bob un o’r ymgeiswyr llwyddiannus sy’n cael eu dewis i arddangos ar y stondin: • Panel gwybodaeth am y cwmni sy’n arddangos yn ein gofod. • Cyfle i ddarparu fideo i’w chynnwys yn y cyflwyniad Cymreig. • Arddangos darn 1 x A4 o ddeunydd darllen ar y stondin. • Ei gynnwys yn llawlyfr arddangoswyr y digwyddiad. • Pas ar gyfer hyd at ddau gynrychiolydd o bob cwmni i’r Gynhadledd a’r Cinio Gala. • Cyfle i hyd at 2 gynrychiolydd i fynd i’r sesiynau rhwydweithio a briffio cyn y gynhadledd. Ni fydd y pecyn yn cynnwys: • Deunydd arddangos ‘pop-up’ y cwmni ar y stondin. • Samplau/arddangosiadau mawr ar y stondin. • Cyfleusterau diodydd (twym nac oer) ar y stondin. Cost: Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cymhorthdal i gwmnïau sydd naill ai’n arddangos yn y digwyddiad hwn neu sydd am ymuno â’r daith fasnach*. Cost arddangos yw £250: Cost teithio’r arddangoswyr a chynrychiolwyr y daith fasnach yw £500. Mae hyn yn cynnwys: • Tocynnau hedfan dwyffordd. • 4 noson o lety a brecwast. • Presenoldeb yn nigwyddiadau’r farchnad. * Gellir noddi hyd at 2 gynrychiolydd o bob cwmni. Llety mewn gwesty yng nghanol y ddinas a chaiff trefniadau teithio’r holl gynrychiolwyr eu gwneud trwy’r asiantaeth deithio y bydd Llywodraeth Cymru wedi’i dewis. NEU Pecyn B: Taith Fasnach yn unig: • Pas ar gyfer 1 cynrychiolydd o bob cwmni – hynny’n cynnwys mynediad i’r Gynhadledd ac i’r Cinio Gala. • Cymryd rhan yn y sesiynau rhwydweithio a briffio cyn y gynhadledd. Cost: Cost teithio’r arddangoswyr a chynrychiolwyr y daith fasnach yw £500. Mae hyn yn cynnwys: • Tocynnau hedfan dwyffordd. • 4 noson o lety a brecwast. • Presenoldeb yn nigwyddiadau’r farchnad. * Gellir noddi hyd at 1 cynrychiolydd o bob cwmni. Llety mewn gwesty yng nghanol y ddinas a chaiff trefniadau teithio’r holl gynrychiolwyr eu gwneud trwy’r asiantaeth deithio y bydd Llywodraeth Cymru wedi’i dewis. Cysylltwch â ni Anfonwch eich ffurflen datgan diddordeb atom ddim hwyrach na dydd Gwener, 8 Gorffennaf i’r cyfeiriad e-bost isod. Byddwn yn cloriannu’r holl ddatganiadau a chaiff ymgeiswyr wybod gennym a ydyn nhw wedi bod yn llwyddiannus. Anfonwch eich Datganiad o Ddiddordeb at: joanna.chard@wales.gsi.gov.uk
Cyhoeddwyd gyntaf
27 Mai 2016
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.