Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Busnes Cymru – Seminar Briffio ar Brexit

Cyhoeddwyd gyntaf:
05 Chwefror 2019
Diweddarwyd diwethaf:
07 Mawrth 2024
19 Chwefror 2019, 09:00 - 11:00 - Port Talbot 4 Mawrth 2019, 08:00 - 10:00 - Y Rhws 6 Mawrth 2019, 08:15 - 10:15 - Doc Penfro 12 Mawrth 2019, 08:00 - 10:00 - Glynebwy 13 Mawrth 2019, 08:00 - 10:00 - Y Drenewydd 19 Mawrth 2019, 08:00 - 10:00 - Gaerwen 21 Mawrth 2019, 08:00 - 10:00 - Porthmadog 22 Mawrth 2019, 08:00 - 10:00 - Glannau dyfrdwy Cost: Am ddim Ar 23 Mehefin 2016, pleidleisiodd pobl Prydain, o drwch blewyn, i adael yr UE. O gofio bod y dyddiad "ymadael" yn brysur nesáu, pa gamau ymarferol yr ydych chi wedi'u cymryd i asesu'r effaith y gallai Brexit ei chael ar eich busnes, a pha mor barod ydych chi am y newidiadau i'r telerau ar gyfer masnachu ag Ewrop? Mae Busnes Cymru yn cynnal nifer o seminarau ar Brexit er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y sefyllfa, ac er mwyn cyflwyno ac egluro'r cymorth sydd ar gael ichi drwy Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill. I archebu, cliciwch ar y ddolen isod http://bit.ly/bcbriffioarbrexit. Erbyn diwedd y digwyddiad, bydd gennych ddealltwriaeth glir o'r cymorth sydd ar gael i helpu busnesau i baratoi ar gyfer Brexit, e.e., Porth Brexit ac offer diagnostig, y cymorth sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru (e.e., Busnes Cymru, Masnach Ryngwladol etc.), yn ogystal â'r cymorth a gynigir gan randdeiliaid allweddol fel Banc Datblygu Cymru, yr awdurdodau lleol etc. Bydd cyfle hefyd ichi rwydweithio. Bydd lluniaeth ar gael wrth ichi gyrraedd ar gyfer bore sy’n sicr o fod yn un addysgiadol. Sylwer mai sesiynau briffio yw'r rhain yn hytrach na sesiynau holi ac ateb am Brexit ei hun.
Cyhoeddwyd gyntaf
05 Chwefror 2019
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.