WaterSafe yw'r gofrestr genedlaethol o blymwyr cymeradwy cymwys. Mae ganddi gefnogaeth
holl gwmnïau dŵr y DU, gan gynnwys Dŵr Cymru, a'r rheoleiddiwr dŵr yfed.
Cafodd ei sefydlu i hyrwyddo plymwyr medrus, a helpu i gadw cyflenwadau dŵr yfed cartrefi a
busnesau yn y DU yn ddiogel.
Pam defnyddio plymwr WaterSafe?
Mae gan Blymwyr Cymeradwy WaterSafe gymwysterau cyfoes, ac maent wedi cael
hyfforddiant penodol am y Rheoliadau Ffitiadau Dŵr - er mwyn eich amddiffyn chi, eich busnes
a'ch cyflogeion rhag gwaith gosod gwael neu rhag defnyddio offer plymio eilradd a allai halogi
eich cyflenwad dŵr yfed.
Rhaid i bob eiddo sy'n cael eu cyflenwadau gan Ddŵr Cymru gydymffurfio â'r rheoliadau hyn,
felly mae'n bwysig taw dim ond plymwyr cymeradwy a chymwys WaterSafe sy'n gweithio ar eich
eiddo – am eu bod nhw'n gallu sicrhau bod y plymio'n cydymffurfio â’r gofynion.
Mae Dŵr Cymru'n cydweithio'n agos â WaterSafe a'i aelodau i sicrhau bod eu gwaith yn
cydymffurfio â'r rheoliadau. Mae'r plymwyr yn cael eu harchwilio gan Ddŵr Cymru cyn cael eu
hargymell i WaterSafe, ac wedyn mae'r cwmni’n eu cynorthwyo trwy gynnig cymorth a chyngor
am ddim pan fo angen.
Beth arall gall plymwr WaterSafe ei gynnig?
- Tawelwch meddwl gydag enw y gallwch ymddiried ynddo – mae holl blymwyr
cymeradwy WaterSafe yn aelodau o’r Cynllun Contractwyr Cymeradwy, sy'n sicrhau bod
y gwaith plymio'n bodloni'r safonau uchaf.
- Tystysgrif 'cwblhau gwaith' sy'n datgan bod eu gwaith plymio'n cydymffurfio â'r
Rheoliadau Dŵr - sy'n rhoi amddiffyniad cyfreithiol i chi os ffeindiwch fod rhywbeth o'i le
yn ddiweddarach.
- Arbed amser ar eich prosiect plymio – mae Dŵr Cymru'n ymddiried ym Mhlymwyr
Cymeradwy WaterSafe i gyflawni rhai mathau o waith heb fod angen rhoi rhagrybudd (o
10 diwrnod fel rheol)
- Arbed dŵr ac ynni – gall plymwyr WaterSafe gynnig cyngor ar sut i osgoi gwastraffu dŵr,
sydd, yn ei dro, yn arbed costau cynhesu dŵr.
Mae gan holl aelodau WaterSafe o leiaf lefel sylfaenol o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.
Dewiswch WaterSafe
Am taw £426 yw cost gyfartalog trwsio gwaith plymio sydd wedi mynd o chwith, mae'n gwneud
synnwyr defnyddio plymwr cymeradwy a fydd yn cyflawni’r dasg yn iawn y tro cyntaf.
O argyfyngau plymio i gyngor ar offer a theclynnau arbed dŵr, y tro nesaf y bydd angen plymwr
arnoch, ewch i www.dwrcymru.com a defnyddiwch far chwilio WaterSafe.
Gallwch gysylltu â Thîm Rheoliadau Dŵr Cymru yn waterregulations@dwrcymru.com.
I gael rhagor o wybodaeth am WaterSafe ewch i watersafe.org.uk neu ffoniwch 0333 207 9030
Cyhoeddwyd gyntaf
03 Mawrth 2020
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024