Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion cam
nesaf y Gronfa Cadernid Economaidd.
Gobeithio y bydd y gwiriwr cymhwystra ar gyfer
ceisiadau newydd ar agor erbyn canol mis Mehefin 2020, gan roi amser i gwmnïau
baratoi eu ceisiadau. Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio agor y gronfa ar gyfer
ceisiadau llawn yn hwyrach yn y mis.
Bydd hyn yn agor y ffordd i’r £100 miliwn sydd ar
ôl o’r £300 miliwn sydd eisoes wedi’i gymeradwyo a’i ddyrannu i ficrofusnesau,
mentrau bach a chanolig a busnesau mawr.
O ran cymhwystra, bydd Cam 2 y Gronfa yn
gweithredu'r un ffordd â Cham 1 ond gyda diweddariad i’r micro-gynllun, a fydd
yn galluogi cwmnïau cyfyngedig nad ydyn nhw wedi cofrestru ar gyfer TAW i gael
mynediad at y Gronfa.
Bydd rhagor o fanylion am y gronfa ar wefan Busnes
Cymru maes o law.
Cyhoeddwyd gyntaf
27 Mai 2020
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024