Mae'r Nodyn Cyngor Caffael hwn wedi'i seilio'n agos
ar Nodyn Polisi Caffael (PPN) 04/20 ar dalu cyflenwyr i sicrhau parhad
gwasanaethau yn ystod ac ar ôl yr achosion COVID-19 ond mae wedi'i deilwra ar
gyfer Cymru, fel y bo'n briodol.
Mae'r Nodyn Cyngor Caffael yn adeiladu ar ac yn
ymestyn y darpariaethau rhyddhad cyflenwyr a geir yn PPN 02/20 'Ryddhad
cyflenwyr oherwydd COVID-19' (a ddaw i ben ar 30 Mehefin) hyd at 31 Hydref
2020.
Bydd Llywodraeth Cymru’n mabwysiadu'r Nodyn Cyngor
Caffael newydd o 1 Gorffennaf ymlaen – anogir awdurdodau contractio yng Nghymru
i wneud yr un peth, ond mater i Swyddogion Cyfrifyddu ym mhob awdurdod fydd
mabwysiadu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Nodyn Cyngor
Caffael, cysylltwch â VWPolicy@llyw.cymru
Cyhoeddwyd gyntaf
25 Mehefin 2020
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024