Mae
cynllun am ddim wedi'i lansio ar gyfer busnesau yn Rhondda Cynon Taf a'r
cyffiniau. Mae CysylltuiLwyddoRhCT yn darparu cyfleoedd penodol, cefnogaeth a chyfleon
rhwydweithio i fusnesau lleol sydd am weithio gyda sefydliadau cyhoeddus.
Rydym yn
gwybod nad oes gan lawer o fusnesau yr amser na'r wybodaeth am strwythurau mewnol
i gynnig am gytundebau cyhoeddus. Mae Connect4SuccessRCT yn cynnig cefnogaeth
bwrpasol, o gyngor am sut i ysgrifennu cais i gyfleon rhwydweithio, i unrhyw
fusnes ac entrepreneur yn Ne Cymru. Ein nod yw cynyddu faint o arian caffael
cyhoeddus sy'n cael ei wario'n lleol.
Unwaith y
bydd eich busnes wedi'i gofrestru, bydd tîm Connect4SuccessRCT yn nodi cyfleon perthnasol
ac yn eich cefnogi trwy'r broses o lunio cais. Mae proffil i bob busnes yn ein
cyfeirlyfr ar-lein ar gyfer sefydliadau cyhoeddus ac mae'n ymddangos ar
gyfryngau cymdeithasol. Mae yna hefyd
ddigwyddiadau hyfforddi, sesiynau ymgynghori, a chefnogaeth swyddfa.
Gall
unrhyw un sy'n darparu gwasanaeth ymuno â Connect4SuccessRCT, o unig fasnachwyr
unigol i sefydliadau mawr. Mae'n ymwneud
â dod a sgiliau a phrofiadau amrywiol at eu gilydd er mwyn datblygu ein
heconomi leol.
Mae
digwyddiadau diweddar wedi dangos pa mor bwysig yw hi i gymunedau gefnogi ei
gilydd. Fel aelodau o'r gymuned fusnes
leol, rydym am greu cadwyni cyflenwi dibynadwy, tyfu'r economi leol, a darparu
gwasanaethau hanfodol i bobl Rhondda Cynon Taf. Caiff y cynllun ei ariannu gan
Lywodraeth Cymru a'i ddarparu gan Practice Solutions.
I gael
gwybod mwy am y cynllun cofrestrwch: http://connect4success.wales
Twitter @Pracsolutions
Cyhoeddwyd gyntaf
23 Hydref 2020
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024