Mae'r gweithdy hwn wedi'i anelu at fusnesau bach a chanolig sy'n dibynnu ar eu cadwyn gyflenwi i sicrhau parhad o ran danfon eu cynhyrchion a gwasanaethau at gwsmeriaid.
Bydd yn cynorthwyo perchnogion busnes i werthuso a yw eu cadwyn gyflenwi yn ddigon cryf i wrthsefyll heriau, megis y pandemig a'r cyfnod wedi pontio'r UE a bydd yn rhoi'r gallu i fynychwyr greu cadwyn gyflenwi gadarn.
Llywio i'r digwyddiad A fydd eich cadwyn gyflenwi yn gallu gwrthsefyll ysefyll a'r cyfnod wedi pontio'r UE (Brexit)? Ar Finder Digwyddiadur Busnes Cymru i gofrestru
Erbyn diwedd y gweithdy, bydd pob cyfranogwr yn gallu pennu:
- Sut fydd creu Cadwyn Gyflenwi Gynaliadwy yn cynorthwyo i wrthsefyll cyfnodau heriol megis COVID a'r cyfnod wedi pontio'r UE
- A yw eich busnes yn barod am Brexit? - byddwn yn eich arwain drwy rai o'r pwyntiau ymarferol y dylai busnesau fod yn ymwybodol ohonynt er mwyn pontio'n ddidrafferth a goresgyn problemau posibl gyda'r gadwyn gyflenwi
- Os nad oes gennych gynllun wedi'i sefydlu eisoes - sut i fynd ati i greu un
- Sut i adnabod bygythiadau
- A ydych chi'n adnabod eich partneriaid? - eich cwsmeriaid yn ogystal â'ch cyflenwyr
- Yr economi sylfaen - prynu'n agosach at adref, beth mae hyn yn ei olygu a sut gall fod o fudd i chi
- Llif arian neu elw? - beth sydd bwysicaf i'ch busnes yn ystod cyfnodau o argyfwng
- Arloesedd - defnyddio technoleg i'ch cynorthwyo chi i gynllunio
- Beth ddylai cyflogwyr fod yn ymwybodol ohono a'i wneud cyn i'r DU ymadael â'r UE, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch cynllun Preswylio'n Sefydlog yr UE - sut gall cyflogwyr wneud cais i aros yn y DU a sut mae hyn yn effeithio ar ymwelwyr busnes.
- Ar ôl Covid (byddwch yn ymwybodol o'r drydedd don!)
Cyhoeddwyd gyntaf
05 Ionawr 2021
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024