Fe wnaeth y DU adael yr UE ar 31
Rhagfyr. Daeth rheolau’r berthynas newydd rhwng yr UE a’r DU i rym ar 1 Ionawr
2021.
Mae’r ffordd mae busnesau’r DU yn
prynu a gwerthu gyda’r UE wedi newid, a gallai hyn effeithio ar eich busnes chi.
Cyflwynwyd canllawiau newydd ar y
canlynol:
Masnachu
â gwledydd sy’n datblygu: Manylion am ‘Generalised
Scheme of Preferences’ y DU. Rhagor o wybodaeth yn GOV.UK.
Rheolau
tarddiad: Gwiriwch eich nwyddau er mwyn masnachu heb dariffau gyda’r UE: Gyda
chytundeb masnach ar waith, gall busnesau’r DU fasnachau heb dariffau gyda’r UE
o 1 Ionawr os yw eu cynhyrchion yn bodloni’r Rheolau Tarddiad. Mae angen i
fasnachwyr y DU wirio a yw eu cynhyrchion yn cydymffurfio, a sut i brofi eu bod
yn tarddu o’r DU. Am ganllawiau manwl ar ofynion rheolau tarddiad dan gytundeb
y DU â’r UE, ewch i GOV.UK.
Gwneud
cais i gyrchu system Customs Handling of Import and Export Freight: Beth
i’w wneud os ydych chi’n defnyddio system CHIEF (Customs Handling of Import and
Export Freight) i ddatgan gwaith mewnforio neu allforio. Rhagor o wybodaeth yn GOV.UK.
Hawlio
ad-daliadau TAW yng Ngogledd Iwerddon neu’r UE, os ydych chi’n fusnes
sefydledig yng Ngogledd Iwerddon neu’r UE: Sut gall
busnesau perthnasol hawlio ad-daliadau am TAW ar nwyddau yn yr UE a Gogledd
Iwerddon gan ddefnyddio system ad-daliad TAW yr Undeb Ewropeaidd. Rhagor o
wybodaeth yn GOV.UK.
I
ddysgu mwy am sut i baratoi’ch busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r
UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.
Cyhoeddwyd gyntaf
15 Ionawr 2021
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024