Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Lloyd & Gravell LTD Cwrdd â'r Prynwr

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ebrill 2021
Diweddarwyd diwethaf:
07 Mawrth 2024

 

10 Mai 2021, 09:00 - 14:00

Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

 

Dymunai Contractwyr Lloyd & Gravell ymgysylltu gyda chadwynnau cyflewni lleol o fewn Ardal De Orllewin Cymru a fyddai’n ymddiddori mewn gweithio gyda ni i ddarparu prosiectau Ysgol Gynradd Dylunio & Adeiladu Passivhaus yn Ysgol Gorslas, Gorslas ac Ysgol y Castell, Cydweli, Sir Gâr. Mae’r prosiectau hyn yn cael eu hymgymryd fel rhan o Fframwaith Contractwyr Ardal De Orllewin Cymru ar gyfer Cyngor Sir Gâr, fel rhan o’i Rhaglen Fuddsoddi Ysgolion y 21ain Ganrif. Fel SME sydd ar hyn o bryd yn ehangu ei gwithrediadau, rydym yn edrych i ymgysulltu ac i ehangu ein cadwyn gyflawni lleol er mwyn ein cefnogi i ddarparu prosiectau presennol a rhai yn y dyfodol.

 

Bydd apwyntiadu yn cael eu rhoi ar sail y cyntaf i'r felin ac os nad ydych yn llwyddo i gael apwyntiad bydd gennym ddiddoreb mewn clywed o gwniau byddai'n hoffi cael eu cynnwys ar ein rhestr gofrestredig. Rydym yn llwyr sylweddoli bod cael cyfleoedd o'r fath yn hyrwyddo twf busnes a chynaliadwyedd yn y rhanbarth.

 

Bydd gwybodaeth am y pecynau o waith ar gael yn yr adran dolennau ychwanegol

 

Bydd Adeiladwyr Lloyd & Gravell yn cynnal digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr rithiol ar y 10fed & 11eg o Fai, 2021 er mwyn ymgysylltu gyda chadwynnau cyflewni lleol i weithio gyda ni i ddarparu prosiectau Ysgol Gynradd Dylunio & Adeiladu Passivhaus yn Ysgol Gorslas, Gorslas ac Ysgol y Castell, Sir Gâr.

 

 Bydd y digwyddiad rithiol ar ffurf cyfarfodydd unigol bob 15 munud, a fydd rhaid bwcio o flaen llaw. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno drwy ddefnyddio Cynadleddau Fideo Timau Microsoft. Bydd angen i bob un sy’n mynychu i fod ar gael 5 munud cyn yr amser meant wedi bwcio, ac wedi cwblhau eu cofrestru cyn dechrau y digwyddiad er mwyn derbyn cyswllt. Sylwer pan yn bwcio eich slot fod angen dewis 1 amser yn unig. A wnewch chi sicrhau bod gennych yr offer cyfrifadurol angenrheidiol ar gael, h.y. laptop neu ffôn gyda gallu cynhedledda sain a fideo. Bydd Busnes Cymru yn cefnogi’r digwyddiad ac ar gael i rhoi cyngor am ymgeisio yn ogystal a chyngor busnes cyffredinol ac arbennigol. Bydd cynrychiolwyr o Lloyd & Gravell hefyd ar gael drwy’r dydd i ateb unrhyw gwestiynnau.

 

Dylunio & Adeiladu Ysgol Gynradd Passivhaus Newydd - Ysgol Gorslas, Gorslas, Llanelli, Sir Gâr  -  Gwerth y Contract -  £6.5M

 

Mae’r prosiect yma yn cynnwys dylunio ac adeiladu ysgol newydd dwy lawr yng Ngorslas, Sir Gâr ar gyfer 240 o ddisgyblion gan gynnwys darpariaeth ar gyfer cyfleuster Cyfnod Sylfaen. Fe ddyluniwyd a bydd yr adeilad newydd yn cael ei hadeiladu i safon Passivhaus gan gyflawni sgôr BREEAM Rhagorol.  Mae’r adeilad newydd wedi ei leoli ar safle wahanol i’r ysgol bresennol ger parc y pentre. Fe fydd rhai o’r ardaloedd allannol yn cael eu defnyddio gan y gymuned tu allan i oriau ysgol. Mae’r prosiect yn cynnwys y seilwaith cysylltiedig, gwaith allanol, draenio ac ymgymeriadau safle pellach. Fe fydd gwaith i wella ardaloedd allanol presennol yn cael ei gwneud lle bydd y prosiect yn effeithio arnynt. 

Bydd y cyfleusterau dysgu newydd yn galluogi disgyblion i gael mynediad i amgylchedd dysgu rhagorol sy'n cefnogi cyflwyno safonau addysg o ansawdd uchel.

 

Dylunio & Adeiladu Ysgol Gynradd Passivhaus Newydd - Ysgol y Castell, Cydeweli, Llanelli, Sir Gâr  -  Gwerth y Contract - £7.4M

 

Mae Cyfnod 1 yn cynnwys adeiladu Ysgol y Castell newydd ar gaeau chwarae cyfagos tra bod yr ysgol bresennol yn parhau i fod yn weithredol. Bydd y gwaith yn cynnwys gwasanaethau cysylltiedig, gosod draenio, gwelliannau i’r briffordd allanol h.y. man croesi a mynedfa fasnachol, tai taenellwr allanol a gwaith allanol rhannol.  Bydd angen i’r ysgol gyflawni sgôr BREEAM Rhagorol. 

 

Bydd Cyfnod 2 y prosiect yn cynnwys dymchwel yr ysgol bresennol, adeiladu ardaloedd chware allanol, gwaith seilwaith, cyfleusterau parcio a gwelliannau priffordd i Stryd y Priordy. Bydd dymchwel yr ysgol yn digwydd ar ôl arolwg R&D a gwaredu Deunyddiau Sy'n Cynnwys Asbestos. Fe fydd dosbarth symudol presennol hefyd yn cael ei ddatgymalu a’i adleoli o fewn 35 milltir o’r ysgol, yn ogystal â dylunio’r trefniadau sylfaen a draenio ar gyfer y safle newydd.

 

Bydd y cyfleusterau dysgu newydd yn galluogi disgyblion i gael mynediad i amgylchedd dysgu rhagorol sy'n cefnogi cyflwyno safonau addysg o ansawdd uchel.

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer y digwyddiad hwn ar gael ar y darganfyddwr Digwyddiadau Busnes Cymru.


Cyhoeddwyd gyntaf
27 Ebrill 2021
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024
Lloyd & Gravell LTD Cwrdd â'r Prynwr

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.