Oes gan eich busnes Fand Eang Gwibgyflym? A hoffech chi
gael gwybod am fanteision Band Eang Gwibgyflym i’ch busnes a chlywed am y
cyfleoedd cyffrous sydd ar gael gan y Rhaglen Band Eang Ffibr Llawn sy’n cael
ei chyflwyno ar hyn o bryd yn Sir Benfro?
Dysgwch ragor am ddigwyddiad ar-lein nesaf Grŵp
Rhyngweithio Busnes Bwrdd yr Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau a gyflwynir
ar y cyd â Busnes Cymru. Bydd y digwyddiad yn egluro sut all eich busnes elwa o
Fand Eang Gwibgyflym a fydd yn cael ei gynnal ddydd Mercher 16 Mehefin rhwng 10:00am - 11:30am. I gofrestru, cliciwch y ddolen ganlynol https://bit.ly/3flX3aX.
Ymhlith y cyflwynwyr yn y digwyddiad mae Patrick Hannon,
Rheolwr Rhaglen Cyflawni Band Eang o Gyngor Sir Benfro, Peter Williams, Rheolwr
Perthnasoedd Technegol, Seilwaith Digidol, Llywodraeth Cymru, a David Elsmere,
Rheolwr Partneriaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau.
Bydd agenda’r digwyddiad yn cynnwys y canlynol:
Patrick Hannon – Cyngor Sir Benfro
- Gwella seilwaith band eang ledled
y sir gyda Band Eang Ffibr Llawn i unrhyw un yn Sir Benfro.
- Ein rhaglen hyd yma
- Beth mae preswylwyr a busnesau
angen ei wneud i elwa o’r rhaglen
Peter Williams – Llywodraeth Cymru
- Beth yw Lloeren Cenhedlaeth Nesaf
a band eang 4G?
- Beth yw LoRaWAN a’r Rhyngrwyd Pethau?
David Elsmere – Cyflymu Cymru i Fusnesau
- Mynediad o bell fel bod modd
gweithio o unrhyw le
- Adnoddau ar-lein i’ch helpu chi i
weithio’n gynt ac yn fwy effeithlon
- Aros yn ddiogel ar-lein ac
amddiffyn eich busnes
- Dweud wrth bobl eich bod yn
ddiogel i fod ar agor ar gyfer busnes
Mae hwn yn ddigwyddiad na fyddwch eisiau ei golli, felly
sicrhewch eich lle heddiw drwy glicio’r ddolen ganlynol https://bit.ly/3flX3aX.
Cyhoeddwyd gyntaf
07 Mehefin 2021
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024