21 Hydref 2021, 10:00 - 13:00
Lleoliad: Best Western Aberavon Beach Hotel, Port Talbot, SA12 6QP
Cost: Am ddim
Mae J.G Hale Construction Ltd a SevenOaks Modular Ltd yn falch iawn o gynnal digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr, yng Ngwesty Glan Môr Aberafan, ar yr 21ain o Hydref 2021, o 10am-1pm. Bydd y digwyddiad yn targedu'r broses o gaffael is-gontractwyr ar gyfer Ail ddatblygu Fflatiau Sirol, prosiect ar gyfer Tai Tarian, gan greu 55 o gartrefi ynni-effeithlon newydd, tra'n ailddatblygu 72 o eiddo presennol. Bydd y cynllun yn defnyddio dulliau adeiladu modern.
Mae'r pecynnau is-gontractwr canlynol ar gael i'w gosod:
- Leinin Sych
- Trydanol
- Peintio
- Gwaith coed
- Tirlunio
- Ardal chwarae
- Gosodwyr brics sy'n gosod llawr
- Balwstradio Gwydr
- Teilsio
- Ffensio
- Toeau
- Siediau
- Inswleiddio
Rydym yn croesawu diddordeb gan is-gontractwyr a chyflenwyr lleol. Gall micro-fusnesau gael cymorth gan Busnes Cymru, ar y cyd â'r digwyddiad.
Bydd pob un sy'n bresennol yn cael slot pymtheg munud gyda'n tîm Masnachol. Cyrhaeddwch 10 munud cyn eich apwyntiad i weld cynlluniau'r safle.
Archebwch nawr: J.G Hale Construction Ltd & Sevenoaks Modular Ltd : Fflatiau sirol digwyddiad caffael cwrdd â’r prynwr
Cyhoeddwyd gyntaf
12 Hydref 2021
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024