Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Defnyddio System Brynu Ddynamig Gwasanaethau Masnachol y Goron sef Research & Insights

Yn 2021, anogodd Llywodraeth Cymru gyflenwyr allweddol yn y categori Ymchwil, gan gynnwys Prifysgolion, i wneud cais i gofrestru gyda Research Marketplace.

Cyhoeddwyd gyntaf:
01 Chwefror 2022
Diweddarwyd diwethaf:
08 Mawrth 2024

 Yn 2021, anogodd Llywodraeth Cymru gyflenwyr allweddol yn y categori Ymchwil, gan gynnwys Prifysgolion, i wneud cais i gofrestru gyda Research Marketplace, sef System Brynu Ddynamig (DPS) CCS sy’n darparu ymchwil ar gyfer cyrff cyhoeddus ledled y DU.  

Fel ateb 'marchnad agored', mae DPS wedi'i gynllunio i roi mynediad i brynwyr at gronfa o gyflenwyr sydd wedi'u cymhwyso ymlaen llaw. Yn wahanol i fframwaith mae DPS yn system electronig y gall cyflenwyr ymuno â hi ar unrhyw adeg.

Bydd y DPS presennol yn dod i ben ar 15/02/2022 ac mae DPS Research & Insights  newydd wedi’i sefydlu sydd bellach yn fyw. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i dendro gofynion ymchwil gwerth dros £25,000 drwy’r DPS newydd ac mae’n annog cyflenwyr sydd eisoes wedi cofrestru neu sydd â diddordeb i gofrestru.

Rhaid i bob cyflenwr gofrestru ar y DPS Research & Insights newydd pa un ai eu bod wedi cofrestru ar y DPS presennol ai peidio.

Mae defnyddio'r DPS yn darparu nifer o fanteision gan gynnwys llwyfan parod ar gyfer caffael ymchwil, lleihau amser i gaffael ar gyfer y sefydliad prynu a'r cyflenwr, cyfleoedd i gyflenwyr newydd wneud cais am hyd y DPS a gwell gwybodaeth fusnes. Bydd cyflenwyr hefyd yn cael cyfle i gael eu gwahodd am ofynion ychwanegol ar draws y Sector Cyhoeddus ehangach. Mae DPC Ymchwil CCS yn broses ar wahân i broses hysbysebu GwerthwchiGymru Llywodraeth Cymru. Pan fydd Llywodraeth

Cymru yn defnyddio'r DPS Ymchwil CCS, hysbysebir yr holl wybodaeth am dendrau drwy borth DPS CCS.  Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio defnyddio DPS CCS yn hytrach na thendro'n agored drwy GwerthwchiGymru yn y lle cyntaf.

Mae 7 cam i wneud cais i gofrestru gyda’r DPS:

  1. Cofrestru gyda Gwasanaeth Cofrestru Cyflenwyr CCS
  2. Cofrestru ar gyfer Offeryn e-Gaffael CCS i sicrhau eich bod yn cael eich gwahodd gan Alwadau i Gystadlu – sicrhau eich bod wedi dewis y hidlwyr cywir - dim ond ar gyfer yr hidlwyr a ddewiswyd y cewch wybod am y gofynion
  3. Sicrhau bod yr enw a’r rhif DUNS ar Offeryn e-Gaffael CCS yn cyd-fynd â’ch cofrestriad gyda’r Gwasanaeth Cofrestru Cyflenwyr a’ch Holiadur Dethol ar gyfer RM6126
  4. Cwblhau Holiadur Dethol RM6126, gan fodloni Meini Prawf Dethol DPS.
  5. Mae’r cyflenwr yn symud i’r cam “Asesu” – gwiriadau cydymffurfedd gan CCS
  6. Mae’r cyflenwr yn symud i’r cam “Cytuno” – Cymeradwyaeth i gwblhau penodi ar y DPS
  7. Mae’r cyflenwr yn symud i’r cam “Wedi Penodi” – wedi’i gofrestru yn llawn ac â’r hawl i ymateb i Alwadau i Gystadlu.

Mae CCS yn disgwyl y bydd yn cymryd hyd at wythnos i gwblhau camau 1–4, a rhwng dwy a phedair wythnos arall ar gyfer camau 5–7. Mae Pecyn Cynnig CCS, y Cyflwyniad a’r Canllawiau ar DPS Research Marketplace yn rhoi rhagor o fanylion ynglŷn â’r broses, ac mae CCS yn rhoi cymorth technegol yn ystod pob cam drwy eu llinell gymorth ar 0845 299 2994 neu ffurflen gysylltu ar-lein.

Mae DPS Research & Insights CCS bellach yn fyw ac yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2025. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu caffael contractau ymchwil dros £25,000  drwy DPS ar gyfer y cyfnod hwn. Hoffen ni annog eich sefydliad i wneud cais i gofrestru gyda’r DPS i sicrhau nad ydych yn colli’r cyfle i gynnig ar gyfer ein contractau.  

Os hoffech drafod ein cynlluniau ymhellach cysylltwch â Gerrard.oneill@gov.wales.


Cyhoeddwyd gyntaf
01 Chwefror 2022
Diweddarwyd diwethaf
08 Mawrth 2024
Defnyddio System Brynu Ddynamig Gwasanaethau Masnachol y Goron sef Research & Insights

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.