Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Prif dudalen newyddion

Sesiynau Arbenigol Busnes Cymru: Cynadleddau Cadwyni Cyflenwi

 

Yn cyflwyno Cynadleddau Cadwyni Cyflenwi Busnes Cymru; pedair sesiwn a fydd yn archwilio'r cyfleoedd sydd ar gael i BBaCh Cymreig yn cyflenwi'r sector preifat a phrynwyr mawr o'r byd diwydiant. 

Ym mhob sesiwn rithiol, bydd ein siaradwyr yn rhannu eu gwybodaeth a'u profiad i'ch helpu chi i gael gwell dealltwriaeth am sut y gall eich busnes ddod yn rhan o'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru.

Beth bynnag yw maint eich busnes, ble bynnag yr ydych chi yng Nghymru, a pha bynnag gynhyrchion neu wasanaethau rydych yn eu darparu, bydd y cynadleddau hyn yn eich helpu chi i ddysgu sut i ddod yn rhan o'r cyfle £6.5b y flwyddyn yma.

  1. Cyfleoedd mewn Cadwyni Cyflenwi (Adeiladu 1) - Ar gael i'w wylio o ddydd Mawrth, 17 Mai
  2. Cyfleoedd mewn Cadwyni Cyflenwi (y GIG) - Ar gael i'w wylio o ddydd Mawrth, 17 Mai
  3. Cyfleoedd mewn Cadwyni Cyflenwi (Cyffredinol) - Ar gael i'w wylio o ddydd Iau, 19 Mai
  4. Cyfleoedd mewn Cadwyni Cyflenwi (Adeiladu 2) - Ar gael i'w wylio o ddydd Iau, 19 Mai

Sesiynau Arbenigol Busnes Cymru: Cynadleddau Cadwyni Cyflenwi