Ar 13 Mehefin, lansiwyd cylch newydd y Grant Buddsoddi mewn Coetir. Gyda £1.9 miliwn o gyllid ar gael yn 2022/2023 mae'r cynllun yn cynnig grantiau rhwng £40,000 – £250,000 ar gyfer prosiectau sy'n creu coetiroedd newydd a/neu'n gwella ac yn ehangu coetiroedd presennol. Rhaid bod gan y coetiroedd hyn botensial i ddod yn rhan o rwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu coetiroedd sy'n cael eu rheoli'n dda, sy'n hygyrch i bobl ac sy'n rhoi cyfle i gymunedau lleol gyfrannu at goetiroedd a natur.
Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld drwy’r ddolen a ganlyn: Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) | Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (heritagefund.org.uk)
Cyhoeddwyd gyntaf
27 Mehefin 2022
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024