Prif dudalen newyddion
Gwynt Glas Prosiect gwynt ar y môr
Mae Gwynt Glas yn gynnig prosiect menter ar y cyd rhwng EDF Renewables UK a
DP Energy i ddatblygu 1GW o Wynt Alltraeth Arnofiol yn y Môr Celtaidd.
Ddydd Mercher 1 Mawrth, cynhaliodd Gwynt Glas ei ddigwyddiad cyntaf yn
canolbwyntio ar y gadwyn gyflenwi yn ne Cymru.
Dysgodd busnesau am dwf rhanbarthol y diwydiant gwynt arnofiol, cynnig
Gwynt Glas a’r cyfleoedd posibl o adeiladu a gweithredu ffermydd gwynt, yn
amodol ar y prosiect yn cael y caniatâd a’r prydlesi sydd eu hangen i ddatblygu
prosiect yn y Môr Celtaidd.
I gofrestru eich diddordeb mewn dod yn gyflenwr i
Gwynt Glas, llenwch y
ffurflen Gwynt
Glas | Ffurflen ddiddordeb yn y gadwyn gyflenwi.
I gadw mewn cysylltiad â newyddion a chyhoeddiadau diweddaraf Gwynt Glas,
dilynwch y partneriaid menter ar y cyd ar LinkedIn:
DP
Energy Group
EDF
Renewables UK & Ireland