Prif dudalen newyddion
System Prynu Dynamig Ymchwil a Mewnwelediadau ar gyfer Contractau Ymchwil Llywodraeth Cymru – diwedd
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog cyflenwyr allweddol yn y categori Ymchwil, gan gynnwys pob prifysgol, i wneud cais am System Ymchwil a Mewnwelediadau Dynamig (DPS) Gwasanaeth Masnachol y Goron (CCS) sy'n darparu ymchwil i gyrff cyhoeddus ledled y DU. Lle bo'n briodol, byddwn yn tendro'r holl ofynion ymchwil dros £25,000 trwy'r DPS hwn nes y daw i ben ym mis Rhagfyr 2025 a byddem yn annog eich sefydliad i wneud cais am y DPS fel nad ydych yn colli'r cyfle i gynnig am ein contractau. Mae manylion sut i wneud cais i'w gweld mewn Erthygl Newyddion flaenorol.
Dylai cyflenwyr presennol sydd wedi'u cofrestru a chyflenwyr sydd â diddordeb fod yn ymwybodol ein bod yn bwriadu defnyddio'r DPS ar gyfer y gofynion canlynol sydd i ddod dros y tri mis nesaf:
C305/2022/2023 - Gwerthuso Cynllun Peilot Ail Gartrefi - tua £262,000 – Ebrill / Mai 2022
C003/2023/2024 - Ymchwil i Gynnig Gofal Plant Cymru Grant Cymorth Ychwanegol – tua £54,000
Os oes gennych ragor o gwestiynau cysylltwch â mi drwy gerrard.oneill@llyw.cymru