Dydd Gwener, 9 Mehefin, 2023 at 10am trwy Microsoft Teams
Mae Cyngor Sir Powys yn chwilio am ddarparwr gwasanaeth i weithredu Gwasanaeth Anghenion Ychwanegol Cymunedol Powys ar gyfer plant/pobl ifanc a'u teuluoedd. Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar draws continwm o angen sy'n cynnwys ymyrraeth gynnar a gofal a chymorth i gyflawni canlyniadau llesiant unigolion. Bydd y gwasanaeth yn darparu seibiannau byr pwrpasol trwy allgymorth a chymorth yn y cartref i blant a phobl ifanc ag anabledd a'u teuluoedd.
Mae'r digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr yn croesawu darparwyr posibl y gwasanaeth i ddysgu mwy am ein gofynion, derbyn gwybodaeth am y fanyleb, y tendr sydd ar ddod ac ateb unrhyw gwestiynau.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Anne-Marie Davies, anne.marie.davies@powys.gov.uk
Archebwch nawr: Darparu Gwasanaeth Anghenion Ychwanegol Cymunedol Powys ar gyfer plant/pobl ifanc a'u teuluoedd
Cyhoeddwyd gyntaf
26 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf
07 Mawrth 2024