Prif dudalen newyddion
Floventis Energy - Datblygiadau Llŷr yn y Môr Celtaidd Digwyddiad Ymwybyddiaeth y Prosiect
30 Mehefin 2023, 10:30 - 13:00
Digwyddiad ar-lein
Cost: Am ddim
Cafodd Floventis y cytundeb ar gyfer lesio datblygiadau Llŷr yn y Môr Celtaidd gan Ystad y Goron ym mis Gorffennaf 2021. Roedd hyn yn amodol ar Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Mae hyn yn caniatáu i Floventis - fel y datblygwr - i fwrw mlaen ag asesiadau ac arolygon amgylcheddol, er mwyn sicrhau mynediad at y grid ac i geisio cael caniatâd cynllunio drwy’r prosesau statudol.
Mae Datblygiadau Llŷr (a elwir yn Llŷr 1 a Llŷr 2) 31km oddi ar arfordir Sir Benfro, a byddant yn arddangos technoleg ynni adnewyddadwy glân ar y môr i’r genhedlaeth nesaf, cyn diwydiannu. Byddant yn pweru tua 200,000 o gartrefi gyda 200MW o ynni glân a gwyrdd, unwaith y bydd ar waith erbyn 2027. Gyda gwerth gwariant cyfalaf o tua £800 miliwn, a’r disgwyl iddo fod ar waith am 25 mlynedd, bydd pob un o brosiectau Llŷr yn cynnwys rhwng chwech ac wyth tyrbin, a bydd pob un o’r rheini yn fwy na 12MW.
Mae arolygon benthig a geoffisegol bellach wedi cael eu cwblhau, yn barod ar gyfer cyflwyno Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn llawn. Disgwylir i’r ymgynghoriad ddechrau ym mis Mai a bydd cais cynllunio llawn yn cael ei gyflwyno ddiwedd 2023.
Mae gan Floventis swyddfa yn Noc Penfro, ac mae wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid lleol a rhanbarthol er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i borthladdoedd a busnesau lleol gefnogi economi gynaliadwy.
Mae Floventis yn cael ei gefnogi gan Busnes Cymru a GwerthwchiGymru, a bydd yn cynnal digwyddiad ymgysylltu â chyflenwyr am 10:30yb ddydd Gwener 30 Mehefin er mwyn cyflwyno’r prosiect ac i ymgysylltu â phartneriaid cadwyn gyflenwi posibl ar hyd a lled Cymru.
Archebwch nawr: Floventis Energy - Datblygiadau Llŷr yn y Môr Celtaidd Digwyddiad Ymwybyddiaeth y Prosiect