Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) – Dyletswyddau Caffael Cymdeithasol Gyf

Cafodd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth caffael​benodol i Gymru Gydsyniad Brenhinol ar 24 Mai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2023
Diweddarwyd diwethaf:
08 Mawrth 2024

Cafodd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth caffael benodol i Gymru Gydsyniad Brenhinol ar 24 Mai. Mae'r Ddeddf yn ceisio gwella llesiant pobl Cymru drwy wella gwasanaethau cyhoeddus, gan weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg a sicrhau chaffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol. 

O ran caffael, mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol i ystyried caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol, gosod amcanion mewn perthynas â nodau llesiant, a chyhoeddi strategaeth gaffael. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodol gyflawni dyletswyddau rheoli contract ar gontractau adeiladu mawr a chontractau gwasanaethau allanol, er mwyn sicrhau bod canlyniadau cymdeithasol gyfrifol yn cael eu dilyn trwy gadwyni cyflenwi.

Mae'r dyletswyddau caffael yn debygol o ddechrau ddiwedd 2024. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i gydweithio ar ddatblygu'r is-ddeddfwriaeth, y codau a'r canllawiau angenrheidiol, ac i'r cyrff cyhoeddus hynny sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd ymgyfarwyddo â'r gofynion a gwneud y trefniadau sy'n ofynnol i gydymffurfio â'r Ddeddf. Mae cysylltiadau hefyd â Bil Caffael y DU, sy'n destun craffu o hyd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) | LLYW.CYMRU.

 Cadwch lygad ar yr wybodaeth ddiweddaraf am y Ddeddf drwy gofrestru ar gyfer cylchlythyr y Bartneriaeth Gymdeithasol. Mae'r cylchlythyr yn darparu gwybodaeth reolaidd ar gynnydd y Ddeddf, manylion allweddol am ddyddiadau a digwyddiadau yn ymwneud â phartneriaeth gymdeithasol a gwaith teg, a mynediad at adnoddau newydd. Cliciwch ar y ddolen isod i danysgrifio: Tanysgrifio i gylchlythyr y Bartneriaeth Gymdeithasol | LLYW.CYMRU


Cyhoeddwyd gyntaf
17 Tachwedd 2023
Diweddarwyd diwethaf
08 Mawrth 2024
Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) – Dyletswyddau Caffael Cymdeithasol Gyf

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.