Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Digwyddiad Blynyddol Wind Europe – 2024

Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn nifer o arddangosfeydd busnes i fusnesau, cynadleddau, teithiau masnach ac ymweliadau â'r farchnad allforio, yng Nghymru, y DU a ledled y byd i hyrwyddo busnesau a leolir yng Nghymru a Chymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2024
Diweddarwyd diwethaf:
07 Mawrth 2024

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn nifer o arddangosfeydd busnes i fusnesau, cynadleddau, teithiau masnach ac ymweliadau â'r farchnad allforio, yng Nghymru, y DU a ledled y byd i hyrwyddo busnesau  a leolir yng Nghymru a Chymru. 

Bydd hyn yn creu cyfleoedd i fusnesau sydd wedi eu lleoli yma ac i gymryd rhan o dan baner Cymru. 

Mae pob cyfle yn amodol ar broses ymgeisio.  Mae'r manylion ar gyfer y digwyddiad nesaf i'w gweld isod:

Digwyddiad Blynyddol Wind Europe, 2024

Mae Wind Europe 2024 yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr y sector gwynt ar y môr. Dyma'r digwyddiad ynni gwynt yn flynyddol gan y diwydiant, a fydd yn eich galluogi i gael mewnwelediadau gwerthfawr i'r farchnad a strategaethau busnes ymarferol a gynlluniwyd i gefnogi'r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Fel mynychwr, gallwch edrych ymlaen at 60+ o sessiynau dros dri diwrnod, lle byddwn yn ymchwilio i'r materion mwyaf yn y gwynt heddiw. 

Bydd dros 330 o siaradwyr o Ewrop a thu hwnt yn ymuno â ni, o bolisi i ddiwydiant, addysg i gyllid, ac o awdurdodau lleol hyd at gyrff Ewropeaidd a rhyngwladol.

Byddwch hefyd yn derbyn diweddariadau ar y marchnadoedd poethaf, ledled Ewrop a thu hwnt, yn ogystal â sgyrsiau a thrafodaethau diddorol ar Lwyfan System Ynni y Dyfodol, gydag Iberdrola.

Manylion y Digwyddiad

Enw'r digwyddiad: Digwyddiad Blynyddol Wind Europe – 2024

Lleoliad:

BEC – Bilbao Exhibition Centre

Azkue Kalea, 1, – Mynedfa’r Gogledd48902 Barakaldo

Bizkaia, Sbaen

Dyddiad: 20-22 Mawrth 2024

Maint y digwyddiad: 400+ o arddangoswyr, 10,000+ o ymwelwyr o 50+ o wledydd, a 330+ o siaradwyr.

Sector(au): Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel, AI, Logisteg, Cynhyrchion a Gwasanaethau, Amgylcheddol

Beth ydw i'n ei wneud nesaf?

Lawr lwythwch y cais, ei gwblhau a'i ddychwelyd i Cheryl.Whitaker@gov.wales a chopïo
PrifSwyddogRhanbartholYGogledd@llyw.cymru

Dyddiad cau ar gyfer Ceisiadau:

8fed o Fawrth 2024

Dolen i’r Gais: Digwyddiad Blynyddol Wind Europe – 2024 | Busnes Cymru (gov.wales)

 
Cyhoeddwyd gyntaf
20 Chwefror 2024
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024
Digwyddiad Blynyddol Wind Europe – 2024

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.