Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru - Digwyddiad

Ddydd Mercher 10 Ebrill 2024

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2024
Diweddarwyd diwethaf:
20 Mawrth 2024

Mae Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru (FCRDOC), yn gwahodd contractwyr sydd â diddordeb mewn dod yn rhan o bedwerydd iteriad Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru (FCRDOC) 2024, i fynychu digwyddiad ymgysylltu â’r farchnad a gynhelir ddydd Mercher 10 Ebrill 2024. Cynhelir y digwyddiad rhwng 10:30yb a 13:00yp (cofrestru o 10:00yb) yn Lolfa Quinell, Parc y Scarlets, Llanelli, SA14 9UZ.

Bydd y digwyddiad ymgysylltu â’r farchnad hwn yn rhoi gwybodaeth am y Fframwaith arfaethedig a fydd yn cefnogi datblygiad cyfalaf a seilwaith ar draws Rhanbarth De-orllewin Cymru, hyd at 2028. Bydd y Fframwaith yn cael ei ddiffinio’n llawn yn y digwyddiad ac amlinellir y broses gaffael. Bydd cyfleoedd hefyd i ofyn cwestiynau ar faterion yn ymwneud â'r ymarfer tendro. Fe'ch anogir i fynychu'r digwyddiad i gael rhagor o wybodaeth.

Mae'r FCRDOC yn cwmpasu Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion ac mae'n agored i'w defnyddio gan yr Awdurdodau Lleol hynny a chyrff sector cyhoeddus eraill yn y rhanbarth. Mae FCRDOC 2024 yn cynnig ychwanegu dwy Lot Tai y gellir gwneud cais amdanynt ar wahân at y lotiau bandiau gwerth arferol ar gyfer gwaith arall yn y sector cyhoeddus.

Archebwch nawr: South West Wales Regional Contractors Framework 2024- Briefing Event Tickets, Wed 10 Apr 2024 at 10:00 | Eventbrite
Cyhoeddwyd gyntaf
20 Mawrth 2024
Diweddarwyd diwethaf
20 Mawrth 2024
Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru - Digwyddiad

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.