12 Mehefin 2025, 10:00 - 12:00
The Phoenix Centre, Abertawe, Swansea, SA1 6PH
Cost: Am ddim
Y gweithdy hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o weithdai a drefnwyd gan Gyngor Abertawe sy'n ceisio cefnogi mentrau bach a chanolig a microfusnesau gyda'r prosesau tendro sy'n rhan o gaffael y sector cyhoeddus.
Mae pyrth ar-lein bellach yn gyffredin ymysg caffael y sector cyhoeddus ac mae Cyngor Abertawe'n ymwybodol y gall y broses gyfan fod ychydig yn llethol a dryslyd i rai perchnogion busnes.
Mae Cyngor Abertawe wedi ymuno â GwerthwchiGymru a Busnes Cymru i gynnal gweithdy GwerthwchiGymru ar-lein ar gyfer busnesau sydd am dyfu eu busnes a chael yr hyn sydd ei angen arnynt i gystadlu am gontractau'r sector cyhoeddus.
Beth fydd y digwyddiad yn ei gwmpasu?
- Cofrestru ar gyfer GwerthwchiGymru.
- Defnyddio'r porth
- Dewis codau Geirfa Gaffael Gyffredin (CPV) cywir
- Mynegiant o ddiddordeb
- E-dendro Cymru
Ar gyfer pwy mae'r gweithdy hwn?
- Unrhyw fusnesau bach a chanolig neu ficrofusnes nad ydynt eto wedi cofrestru ar gyfer GwerthwchiGymru.
- Unrhyw fusnesau bach a chanolig neu ficrofusnes a chanddynt gyfrif GwerthwchiGymru anweithredol.
- Unrhyw fusnesau bach a chanolig neu ficrofusnes a chanddynt gyfrif GwerthwchiGymru ond sy'n cael trafferth wrth ddefnyddio'r porth.
- Unrhyw fusnesau bach a chanolig neu ficrofusnes sydd am ddod yn gyfarwydd ag E-dendro Cymru
Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Archebwch nawr: Business Wales Events Finder - Gweithdy Gwerthwch i Gymru
Cyhoeddwyd gyntaf
02 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf
02 Mehefin 2025