Mae’n bleser gennym eich gwahodd i’n Harddangosfa Cwrdd â’r Prynwyr sydd ar y gweill, sydd â’r nod o gefnogi BBaCh yng Nghymru i gyrchu a sicrhau cyfleoedd cadwyni cyflenwi.
Arena Abertawe: 10/09/2025
Venue Cymru Llandudno: 16/10/2025
Wedi’i ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, mae’r Arddangosfeydd hyn yn rhoi cyfle i fynychwyr ymgysylltu mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb â phrynwyr blaenllaw o sectorau amrywiol, gan chwilio am fusnesau gyda sgiliau ac arbenigedd penodol yn rhagweithiol.
Arddangosodd Expo y llynedd 872 o gyfleoedd contractio gwerth £36.1 biliwn anhygoel, eleni rydym yn dod â hyd yn oed mwy o brynwyr a sefydliadau cymorth ynghyd i gryfhau cadwyni cyflenwi lleol, hybu cyfleoedd i fusnesau Cymru, a chynyddu gwariant lleol yng Nghymru
Mae’r expos hyn sydd am ddim i’w mynychu, a drefnir gan Busnes Cymru a GwerthwchiGymru, yn cynnig cyfleoedd unigryw i fusnesau gysylltu’n uniongyrchol â sefydliadau blaenllaw Cymru, i gyd yn gweithio’n bwrpasol i ehangu eu cadwyni cyflenwi lleol
Gall mynychwyr archwilio cyfleoedd byw o fewn sectorau allweddol fel bwyd, iechyd, gofal cymdeithasol, adeiladu, tai, manwerthu, a thrafnidiaeth.
Yn ogystal bydd yna barth cymorth neilltuol lle gallwch ddysgu strategaethau effeithiol ar gyfer canfod, ymgeisio a sicrhau cytundebau.
Dysgu mwy am y prynwyr a'r arddangoswyr sy’n mynychu, ynghyd â manylion ynglŷn â sgyrsiau seminar gan arweinwyr blaenllaw ym meysydd cyflenwi a chaffael, ewch i ymweld â thudalen we: www.businesswalesexpo.wales/cy/home
Sut i gofrestru
I sicrhau eich lle yn yr Arddangosfa Cwrdd â’r Prynwyr, ewch i’n tudalen gofrestru: www.businesswalesexpo.wales/cy/attendee-registration a chwblhewch y ffurflen gofrestru fer hon. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly rydym yn eich annog i archebu cyn gynted â phosibl.
Cyhoeddwyd gyntaf
11 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf
11 Gorffennaf 2025