Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ymgynghoriad ar Is-ddeddfwriaeth Caffael Cyhoeddus Cymdeithasol Gyfrifol o dan Ddeddf Partneriaeth G

Ymgynghoriad ar Is-ddeddfwriaeth Caffael Cyhoeddus Cymdeithasol Gyfrifol o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:
19 Awst 2025

Mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi lansio'r ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddar ar is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.  

Mae'r ymgynghoriad technegol hwn yn rhoi cyfle pwysig i randdeiliaid wneud sylwadau ar yr is-ddeddfwriaeth. Gofynnir am farn ynghylch a yw'r rheoliadau drafft yn adlewyrchu'n gywir y bwriad polisi, sydd wedi'i setlo a'i seilio ar Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). 

Rydym yn croesawu’n arbennig ymatebion gan awdurdodau contractio a restrir yn Atodlen 1 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, yn ogystal â chyflenwyr i'r sector cyhoeddus ac eraill sydd â diddordeb yn y Ddeddf, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a chaffael yn ehangach.

Os hoffech gyfrannu at yr ymgynghoriad, dylid cyflwyno eich ymatebion drwy lenwi'r ffurflen ar-lein hon. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion yw 14:00, 14 Hydref 2025.


Cyhoeddwyd gyntaf
19 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf
19 Awst 2025
Ymgynghoriad ar Is-ddeddfwriaeth Caffael Cyhoeddus Cymdeithasol Gyfrifol o dan Ddeddf Partneriaeth G

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.