Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ymgynghoriad 2 SRPP

Ymgynghoriad ar God Allanoli Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gweithlu drafft o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:
23 Medi 2025

Yn ddiweddar, mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi lansio'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod Allanoli Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gweithlu drafft o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

Mae'r ymgynghoriad yn rhoi cyfle pwysig i randdeiliaid wneud sylwadau ar y Cod Allanoli Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gweithlu drafft. Gofynnir am farn ynghylch a yw'r cod yn adlewyrchu bwriad y polisi, sydd wedi'i setlo a'i seilio ar Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). 

Rydym yn croesawu’n arbennig ymatebion gan awdurdodau contractio a restrir yn Atodlen 1 i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, yn ogystal â chyflenwyr i'r sector cyhoeddus ac eraill sydd â diddordeb yn y Ddeddf, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a chaffael yn ehangach.

Os hoffech gyfrannu at yr ymgynghoriad, dylid cyflwyno eich ymatebion drwy lenwi'r ffurflen ar-lein hon. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion yw 14:00 ar 3 Rhagfyr 2025. 
Cyhoeddwyd gyntaf
23 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf
23 Medi 2025
Ymgynghoriad 2 SRPP

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.