Cydweithredu. Cystadlu. Ennill.
Allai eich busnes chi fod yn ennill contractau â gwerth uwch drwy weithio ag eraill? Ymunwch â’n Sioe Deithiol, sydd wedi’i hariannu’n llawn, yn eich ardal chi i ganfod sut y gall gweithio mewn partneriaeth agor drysau i gyfleoedd a allai fod allan o gyrraedd ymgeiswyr unigol. 
Rydym yn rhedeg cyfres o ddigwyddiadau ledled Cymru, y gallwch eu mynychu’n bersonol, i helpu cyflenwyr lleol i gysylltu, ffurfio partneriaethau, ac archwilio sut y gallai cydweithredu mewn modd strwythuredig arwain at gontractau mwy a thwf busnesau. Mae’r sesiynau hyn wedi’u dylunio i roi arweiniad ymarferol i chi, ynghyd â mewnwelediadau go iawn, a chyfle i gwrdd â chyflenwyr a busnesau eraill yn eich ardal.
Beth Wnewch Chi Ei Ennill 
    - Gwybodaeth Ymarferol: Dysgwch gamau hanfodol ar gyfer gwneud ceisiadau ar y cyd yn llwyddiannus.
- Profiad Go Iawn: Cewch glywed astudiaethau achos o brosiectau blaenorol.
- Mewnwelediadau i’r Farchnad: Cewch ganfod cyfleoedd cyfredol a rhai sydd ar y gweill.
- Rhwydweithio sy’n Gweithio: Cewch gyfarfod cyflenwyr lleol ac archwilio cryfderau cyflenwol.
Darperir lluniaeth.
Dysgwch sut all cydweithio greu ceisiadau cryfach, sicrhau gwell gwerth cymdeithasol, bodloni anghenion caffael newydd ac agor drysau i greu cyfleoeodd mwy sylweddol.
Dyddiadau a Lleoliadau
    - Hotel Wrexham, Wrecsam | 12fed Tachwedd 10:00–13:00
- Venue Cymru, Llandudno | 13eg Tachwedd 10:00–13:00
- Hafan Yr Afon, Y Drenewydd | 14eg Tachwedd 12:30-15:00
- Prifysgol Caerdydd, Caerdydd | 26ain Tachwedd 14:00–19:00
- Prifysgol Caerdydd, Caerdydd | 2il Rhagfyr 14:00–19:00
Sicrhewch Eich Lle Heddiw!
Mae lleoedd yn gyfyngedig. Peidiwch â methu’r hyfforddiant a’r cymorth hwn sydd wedi’i ariannu’n llawn ynghylch ceisiadau ar y cyd— cysylltwch, cydweithredwch, ac archwiliwch gyfleoedd mwy.
[cliciwch i gofrestru]
                
                
                    
                        
                            Cyhoeddwyd gyntaf
                        
                        
                            28 Hydref 2025
                        
                     
                    
                        
                            Diweddarwyd ddiwethaf
                        
                        
                            28 Hydref 2025