Clystyrau Allforio Cymreig
Cost: Am ddim
Digwyddiad yn M-SParc, Gaerwen
Dydd Mawrth, 17 Mawrth o 12pm tan 3:30pm
Mae M-SParc yn cynnal yr digwyddiad hefo’r Rheolwyr Clwstwr
Allforio, wedi'i gynllunio i helpu busnesau i ddeall y gefnogaeth sydd ar gael
ar draws sectorau allweddol ac archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio, arloesi
a thwf allforio.
Y Clystyrau Allforio Cymru yw:
• Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Glân
• Cynhyrchion Defnyddwyr
• Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel
• Technoleg Feddgol
• Technoleg
Bydd y sesiwn yn dechrau gyda chyflwyniad i'r Clystyrau
Allforio, gan amlinellu sut maen nhw'n gweithredu, pa gefnogaeth maen nhw'n ei
chynnig, a sut mae clystyrau'n cydweithio ar draws sectorau. Ar ôl hyn fydd na
cyfle i rhwydweithio dros cinio a cyfle i chi gysylltu'n anffurfiol â rheolwyr
clwstwr, cydweithwyr Llywodraeth Cymru, a busnesau eraill.
Bydd y sesiynau clwstwr sy'n benodol i'r sector yn rhedeg ar yr un pryd, gan
ganiatáu ichi ymchwilio'n ddyfnach i'r clwstwr mwyaf perthnasol. Bydd y
sesiynau hyn yn canolbwyntio ar weithgareddau’r clwstwr, digwyddiadau wedi'u
cynllunio, mecanweithiau cymorth a chyfleoedd gydag M-SParc a'i bartneriaid.
Bydd y digwyddiad yn dod i ben gyda thrafodaethau 1-i-1 y gellir eu harchebu
gyda rheolwyr clwstwr, gan ddarparu cyngor wedi'i deilwra a'r cyfle i archwilio
cefnogaeth bellach.
Cofrestrwch yma
Cyhoeddwyd gyntaf
11 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf
11 Mawrth 2026