Fel rhan o waith ymchwil parhaus ‘local policy innovation partnership’ (LPIP), mae M-SParc a Phrifysgol Bangor yn ceisio deall yn well rôl busnesau o fewn cadwyn gyflenwi'r sector ynni yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Mae'r ymchwil yn edrych ar brofiad busnesau o weithio yn y sector ynni, cydweithio â sefydliadau eraill, mynediad at gontractau lleol, rhwystrau i gymryd rhan yn y sector, a'r manteision posibl o fod wedi'u lleoli'n agos at brosiectau ynni mawr.
Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech gwblhau'r holiadur byr isod:
https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLScyIZm1O4aN8may3QHRVMu-OE5eoWKkEnR53RT8JEKfE6ikfQ/viewform?usp=header
Bydd eich ymateb yn ein helpu i greu darlun cliriach o'r gadwyn gyflenwi ynni ledled Cymru ac i nodi'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu busnesau sy'n gweithredu yn y sector.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr holiadur neu'r ymchwil ehangach, mae croeso i chi gysylltu, trwy e-bostio egni@m-sparc.com.
Cyhoeddwyd gyntaf
24 Awst 2026
Diweddarwyd ddiwethaf
24 Awst 2026