Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Procurex Cymru 2026: y tocynnau olaf am ddim a’r cyfleoedd olaf i arddangos

Bydd Procurex Cymru 2026 yn digwydd ddydd Mercher 11 Tachwedd yn Utilita Arena Caerdydd, a bydd yn dod â phrynwyr a chyflenwyr ynghyd o bob rhan o farchnad Cymru ym maes caffael cyhoeddus, sy’n werth £11.4+ biliwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
19 Hydref 2026

Procurex Cymru 2026: y tocynnau olaf am ddim a’r cyfleoedd olaf i arddangos

Ar ran BiP Solutions sy’n trefnu Procurex Cymru, roeddem am sicrhau bod cyflenwyr GwerthwchiGymru yn gwybod am ddau gyfle olaf i gymryd rhan yn Procurex Cymru 2026.

Bydd Procurex Cymru 2026 yn digwydd ddydd Mercher 11 Tachwedd yn Utilita Arena Caerdydd, a bydd yn dod â phrynwyr a chyflenwyr ynghyd o bob rhan o farchnad Cymru ym maes caffael cyhoeddus, sy’n werth £11.4+ biliwn.

Fel un o gyflenwyr cofrestredig GwerthwchiGymru, mae dwy ffordd ar gael o hyd i gymryd rhan. Mae stondinau pen bwrdd yn dal ar gael i sefydliadau a fyddai’n hoffi arddangos, ac rydym hefyd wedi rhyddhau’r dyraniad olaf o docynnau am ddim i ymwelwyr.

Yn newydd ar gyfer 2026 – stondinau pen bwrdd

Ein stondinau newydd pen bwrdd yw’r ffordd fwyaf fforddiadwy o arddangos yn Procurex Cymru. Mae pob un yn cynnwys bwrdd, lliain bwrdd, dwy gadair a lle i hyd at ddwy faner godi 1 metr, a byddant yn nhu blaen y neuadd arddangos. Mae’n ffordd syml a chost-effeithiol o osod eich sefydliad gerbron prynwyr o Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, y GIG, y sector tai, y sector addysg a’r gwasanaethau brys.

Dim ond 10 sy’n weddill. Gallwch gael gwybod mwy yma, neu cysylltwch â’r tîm:

0141 739 5383  |  exhibitions@procurexwales.co.uk

Y 100 tocyn am ddim olaf

Rydym wedi rhyddhau’r 100 tocyn am ddim olaf (sydd fel rheol yn costio £195 + TAW) ar gyfer cyflenwyr GwerthwchiGymru. Maent ar gael i’r cyntaf i’r felin – cadwch eich lle yma.

Y rhestr lawn o siaradwyr wedi’i chyhoeddi

Mae rhaglen lawn y gynhadledd yn fyw’n awr, ac mae’n cynnwys anerchiad gweinidogol ochr yn ochr â siaradwyr o Lywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Seiberwydnwch Cymru. Porwch drwy’r sesiynau a chynlluniwch eich diwrnod gan ddefnyddio’r adnodd cynllunio ymlaen llaw sydd ar-lein – cynlluniwch eich diwrnod yma

Caiff Procurex Cymru 2026 ei gefnogi’n swyddogol gan Lywodraeth Cymru. Edrychwn ymlaen at eich gweld yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd.


Cyhoeddwyd gyntaf
19 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf
19 Hydref 2026
Procurex Cymru 2026: y tocynnau olaf am ddim a’r cyfleoedd olaf i arddangos

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.