Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg
Cost: Am ddim
Crynodeb
Cyfres o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb, yng Nghaerfyrddin ac yna Abertawe, a sesiynau rhithwir Microsoft Teams, wedi'u trefnu ar dri dyddiad.
Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2026 – Caerfyrddin - Archebwch isod
Dydd Gwener 4 Rhagfyr 2026 – ar–lein - Archebwch yma: 04/12/2026
Dydd Iau 10 Rhagfyr 2026 – Abertawe - Archebwch isod
Mae pob dyddiad sydd ar gael yn cynnwys dwy sesiwn, y cyntaf rhwng 11:30-12:15, gan ddilyn gydag egwyl o 45 munud a'r ail rhwng 13:00-13:45. Mae'r cynnwys yr un fath ym mhob sesiwn, felly dim ond un o'r sesiynau y bydd angen i weithredwyr eu mynychu.
Beth fydd cynnwys y cwrs?
Mae'r ymgysylltiad yn dilyn cyhoeddi UK13: Hysbysiad Bwriad Marchnad Ddeinamig, gan gyhoeddi yn ffurfiol lansiad Marchnad Ddeinamig Gwasanaethau Masnachfreinio Bysiau.
Bydd y sesiwn yn rhoi cymorth a gwybodaeth i weithredwyr ar sut i wneud cais. Bydd yn cynnwys gwybodaeth am ddefnyddio Porth Caffael TrC, sut i baratoi a chyflwyno cais a chanllawiau i gyflenwyr eraill, gan gynnwys manylion y cymorth i gyflenwyr sydd ar gael gan Busnes Cymru.
Caiff y sesiynau cymorth i weithredwyr eu cyflwyno ar ôl lansio'r Farchnad Ddeinamig, ac fe'u cefnogir gan adnoddau hunangymorth cynhwysfawr, gan gynnwys tiwtorialau a chanllawiau eraill i sicrhau bod gan ddarpar gyflenwyr ganllawiau hygyrch ar gael iddynt trwy gydol y broses sefydlu.
Bydd yn cynnwys recordiad o'r sesiwn cymorth i weithredwyr a fydd ar gael i'r rheini na all fynychu'r sesiynau sydd wedi'u trefnu.
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?
Gweithredwyr bysiau.
Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd fesul busnes.
Noder: Er bod y gefnogaeth sydd ar gael fan Busnes Cymru yn canolbwyntio ar gefnogi Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) yng Nghymru, mae'r digwyddiad hwn yn agored i weithredwyr a sefydliadau o bob maint ac mewn unrhyw leoliad. Rydym yn croesawu cyfranogiad gan unrhyw fusnes sydd â diddordeb yn y cyfle hwn, gan gynnwys y rhai sy'n gweithredu ar draws ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr a rhwydweithiau trafnidiaeth ehangach y DU.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r prosiect hwn drwy Gronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru.
Cyflwynir y digwyddiad hwn gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Hysbysiad Diogelu Data a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR):Bydd manlion eich archeb yn cael ei rhanu gyda’ prynwr at ddibenion cydlynu digwyddiadau a chaffael. Drwy archebu, rydych yn rhoi eich caniatâd i rhannu'r data hwn.
Cyhoeddwyd gyntaf
20 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf
20 Tachwedd 2026