Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Sesiynau ymwybyddiaeth am prosiect Wylfa Newydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
01 Hydref 2014
Diweddarwyd diwethaf:
07 Mawrth 2024
Mae’r Rhaglen Ynys Ynni ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Pwer Niwclear Horizon yn cynnig sesiynau blasu rhad ac am ddim i ddatblygu gallu busnesau i fod yn barod fel rhan o'r cynllun peilot cychwynnol. Mae’r peilot hwn yn ategu’r rhaglenni datblygu cyflenwyr sydd ar gael ar hyn o bryd, a’i fwriad yw helpu busnesau lleol a rhanbarthol yng Ngogledd Cymru, yn y sector Gwasanaethau Adeiladu, i wella'u hymwybyddiaeth o’r sgiliau busnes gofynnol ar gyfer bod yn barod i gystadlu am waith a fydd yn gysylltiedig â Phrosiect Wylfa Newydd yn y dyfodol. Mae pum gweithgaredd yn gysylltiedig â’r rhaglen beilot hon, (a bydd pob un yn cael ei gynnal ddwywaith rhwng Hydref 2014 a Mawrth 2015 mewn lleoliadau ar draws Gogledd Cymru): - trosolwg o'r Diwydiant Niwclear: ddoe, heddiw ac i’r dyfodolgweithdy ar sut i dendro gyda Pwer Niwclear Horizon - rheoli Diogelwch Gwybodaeth gyda Pwer Niwclear Horizon - ysgrifennu CV ar gyfer tendro - datganiadau dull ac asesiadau risg gyda Pwer Niwclear Horizon Gan fod rhai meini prawf cymhwyso yn berthnasol, mae'n bosibl y byddwn ni'n cysylltu â chi i gadarnhau bod y busnes yn bodloni'r meini prawf a bennwyd. Mae'n annhebygol y byddwn ni'n gallu cynnig mwy nag un lle i bob busnes. I gael rhagor o fanylion am bwy ddylai fynychu, darllenwch y disgrifiad o'r digwyddiad cyn i chi archebu eich lle. Mae eich adborth ar gyfer y Peilot yn hanfodol a chaiff ei ystyried wrth ddatblygu unrhyw raglenni yn y dyfodol. Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle ar y sesiynau blasu, cliciwch ar y linc isod.
Cyhoeddwyd gyntaf
01 Hydref 2014
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.