Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

WEPco

Mae Partneriaeth Addysg Cymru yn fenter ar y cyd – partneriaeth hirdymor - rhwng Banc Datblygu Cymru (Llywodraeth Cymru) a Meridiam i gynllunio, adeiladu, ariannu, gweithredu a chynnal seilwaith addysg dros 25 mlynedd.

Amcanion y rhaglen PAC yw sefydlu partneriaeth sefydlog a hirdymor sy'n darparu cyfleusterau addysg a chymunedol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gan ddarparu gwerth amlwg am arian i'r sector cyhoeddus a thryloywder i randdeiliaid cenedlaethol a lleol

Rôl WEPCo yw hwyluso'r gwaith o ddarparu hyd at 30 o gyfleusterau addysg newydd (ysgolion a cholegau yn bennaf) yng Nghymru gan ddefnyddio'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru i ariannu prosiectau cyfalaf mawr.

At hynny, mae'r Bartneriaeth yn ceisio datblygu, buddsoddi a rheoli prosiectau sy'n cynnig canlyniadau buddiol ychwanegol i gymunedau lleol drwy Fframwaith Academi Sgiliau pwrpasol 

Mae Gwerth Cymdeithasol ac ESG (Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu) wrth wraidd ein dull gweithredu ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n cadwyni cyflenwi i ddarparu seilwaith addysg gyhoeddus sy'n.

• Gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
• Darparu seilwaith cynaliadwy a gwydn sy'n gwella ansawdd bywydau pobl.
• Sbarduno twf a dyhead cynaliadwy, gan greu cyfleoedd drwy fasnach, buddsoddi, swyddi a sgiliau.
• Cofleidio a hyrwyddo amrywiaeth, diwylliant a balchder Cymru.

I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau a chyfleoedd sydd ar gael gan WEPCo a'n cadwyn gyflenwi, cyfeiriwch at y ddolen ganlynol

Am fanylion yr eiconau a ddefnyddiwyd, gweler Esbonio'r Eiconau. .

Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw gofnodion sy'n cyfateb i'r categori hwn.