Disgrifiad o'r contract
1. Cyflwyniad
1.1 Mae Awdurdod S4C yn gyfrifol am ddarpariaeth a chydymffurfiaeth rheoleiddiol gwasanaethau S4C (yn amodol ar bwerau sydd gan Ofcom o dan y Ddeddf Gyfathrebiadau 2003). Mae’r gofynion statudol ar S4C wedi’u gosod allan yn Neddfau Darlledu 1990 a 1996 a’r Ddeddf Gyfathrebiadau 2003. Mae S4C yn gweithredu o dan Adrannau 203 hyd 207 (yn gynwysedig) ac Atodlen 12 Deddf Cyfathrebiadau 2003. Mae Adran 204 yn darparu bod yr Awdurdod yn gweithredu i ddarparu gwasanaethau rhaglenni teledu o safon uchel gyda’r bwriad iddynt fod ar gael yn gyfan gwbl neu yn bennaf i’r cyhoedd yng Nghymru.
1.2 Corfforaeth Statudol yw S4C sydd yn derbyn cyllid gan yr Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (ADdCCh), o’i incwm masnachol ac, ers 2013/14, o’r Ffi Drwydded trwy Ymddiriedolaeth y BBC. Mae hyn yn unol â’r Cytundeb Fframwaith o Medi 2011 rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ag Ymddiriedolaeth y BBC a’r Cytundeb Gweithredu rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ag Awdurdod S4C o Ionawr 2013. Mae S4C yn atebol i Ymddiriedolaeth y BBC am ddefnydd arian y ffi’r drwydded a ddaw drwy’r Ymddiriedolaeth.
1.3 Er mwyn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i weithredu'r newidiadau i ariannu S4C, diwygiwyd fformiwla cyllido blaenorol Awdurdod S4C ym mis Rhagfyr 2011 gan Adran 31 o’r Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011. O dan y ddarpariaeth ddiwygiedig hon mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol am Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon bellach ddyletswydd statudol i sicrhau ym 2012, a phob blwyddyn dilynol, y bydd Awdurdod S4C yn cael ei dalu swm y mae ef / hi yn ystyried ei fod yn ddigonol ar gyfer y gost i'r Awdurdod yn ystod y flwyddyn honno sy’n gysylltiedig â (a) darparu gwasanaethau cyhoeddus yr Awdurdod; a (b) threfnu darlledu neu dosbarthu’r gwasanaethau hynny.
1.4 Sefydlwyd nifer cyfyngedig o is-gwmnïau a berchenogir yn llwyr gan S4C sy’n cynhyrchu incwm masnachol drwy ystod o weithgareddau masnachol.
1.5 Rhennir cyllid S4C rhwng Cronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus, (sy’n cynnwys yr incwm a dderbynnir gan ADdCCh ac Ymddiriedolaeth y BBC), a’r Gronfa Gyffredinol (nad yw’n cynnwys yr incwm a dderbynnir gan ADdCCh ac Ymddiriedolaeth y BBC ond sy’n cwmpasu’r incwm o’r gweithgareddau masnachol hyn). Mae’r swyddogaethau archwilio dan sylw yn y tendr hwn yn ymestyn ar draws y ddwy gronfa.
1.6 Mae S4C hefyd yn derbyn o leiaf 10 awr ar gyfartaledd o raglenni Cymraeg bob wythnos gan y BBC am ddim.
1.7 Ym mis Hydref 2010, yn dilyn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant, gwelodd S4C toriad sylweddol yn ei gyllid. Er mwyn cyflawni'r arbedion angenrheidiol cynhaliodd y sefydliad proses ailstrwythuro sylweddol.
1.8 Mae Siarter Frenhinol bresennol y BBC yn rhedeg tan 31 Rhagfyr 2016. Oherwydd y dull o ariannu S4C bydd adnewyddu Siarter y BBC yn cael effaith ar S4C yn ystod y contract hwn.
1.9 Mae S4C wedi cyhoeddi’r bwriad i Adleoli ei bencadlys i Gaerfyrddin erbyn Ionawr 2018 ac i gydleoli rhai staff gyda BBC Cymru/Wales mewn adeilad newydd i’w adeiladu yng nghanol Caerdydd.
2. Cwmpas y Tendr
2.1 Bydd ystod y gwaith o dan y cytundeb Gwasanaethau Archwilio Mewnol yn cynnwys archwiliad o’r cofnodion a phrosesau cyfrifo o 2015/16 hyd 2017/18 yn unol â rhaglen waith a gytunir gyda Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg Awdurdod S4C.
2.2 Rydym yn amcangyfrif y byddai nifer y diwrnodau sydd eu hangen i gyflawni anghenion Archwilio Mewnol S4C tua 35 diwrnod y flwyddyn (gan gynnwys cynllunio a gweinyddu).
2.3 Bydd y rhan fwyaf o’r ddogfennaeth sy’n ymwneud â’r swyddogaeth archwilio ar gael yn y Gymraeg yn unig. Bydd felly angen i chi sicrhau a dangos gallu ieithyddol digonol yn eich cais.
2.4 Mae dyletswydd ar S4C i sicrhau nad oes unrhyw gymhorthdal uniongyrchol nac anuniongyrchol ar gyfer ei gweithgareddau masnachol yn dod o’r Gronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus. Hefyd, gofynnir iddi ymdrin ar wahân â’r Gronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus a’r Gronfa Gyffredinol. Felly, dylai ceisiadau ddangos cynlluniau’r ymgeisydd i adlewyrchu’r gofynion hyn yn y swyddogaeth archwilio. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus wneud asesiad risg ar y cychwyn ac i lunio cynllun archwilio tair blynedd newydd yn ystod blwyddyn gyntaf y cytundeb newydd.
2.5 Dylid esbonio sut y byddwch yn cyfathrebu gyda’r archwilwyr allanol ac i gadarnhau y byddwch yn caniatáu mynediad dilyffethair iddynt i’ch papurau gweithiol.
2.6 Mae S4C yn cynnig penodiad tair blynedd. Bydd S4C yn adolygu’r cytundeb a pherfformiad yr ymgeisydd llwyddiannus ar ôl y flwyddyn gyntaf ac mae’n cadw’r hawl i derfynu’r cytundeb ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf yn dilyn adolygiad o’r fath. Bydd yr adolygiad hwn yn ychwanegol i unrhyw adolygiadau rheolaidd a ddarparir yn y cytundeb.
|