Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Beth yw RSS?

Beth yw RSS?
Sut y gallaf ddefnyddio RSS?
Sut y gallaf gael Darllenydd Newyddion?
A allaf ddefnyddio'r porthiant hwn ar fy ngwefan?

Beth yw RSS?

Gyda biliynau o dudalennau gwe, gall fod yn anodd sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf sydd ei hangen arnoch.

Oni fyddai'n well cael y newyddion a'r erthyglau diweddaraf wedi'u hanfon yn uniongyrchol atoch chi, yn hytrach na gorfod clicio o wefan i wefan? Mae hynny'n bosibl bellach diolch i wasanaeth newydd, sef RSS.

Mae rhywfaint o drafodaeth wedi bod ynghylch ystyr RSS, ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn dewis 'Really Simple Syndication'. Yn syml, mae'n eich galluogi i nodi'r cynnwys rydych yn ei hoffi a chael y cynnwys hwnnw wedi'i anfon yn uniongyrchol atoch

Mae'n golygu ei bod yn hawdd i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf y mae gennych ddiddordeb ynddi.

Nid yw pob gwefan yn darparu RSS ar hyn o bryd, ond mae'n cynyddu mewn poblogrwydd yn gyflym ac fe'i darperir gan lawer o wefannau eraill.

Nôl i'r brig

Sut y gallaf ddechrau defnyddio porthiant RSS?

Yn gyffredinol, y peth cyntaf sydd ei angen arnoch yw darllenydd newyddion. Ceir llawer o fersiynau gwahanol. Gellir cael gafael ar rai ohonynt drwy ddefnyddio porwr ac mae rhai ohonynt yn gymwysiadau y gellir eu lawrlwytho. Mae pob un ohonynt yn

Unwaith y byddwch wedi dewis darllenydd newyddion, yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw penderfynu pa gynnwys yr hoffech ei gael. Er enghraifft, os hoffech gael y newyddion diweddaraf o GwerthwchiGymru, ewch i'r adran Newyddion lle gwelir botwm RSS

Drwy glicio ar y botwm, gallwch danysgrifio i'r porthiant mewn sawl ffordd, gan gynnwys drwy lusgo URL y porthiant RSS i'w darllenydd newyddion dewisol neu drwy dorri a phastio'r un URL i borthiant newydd yn eich darllenydd newyddion.

Gall rhai porwyr, gan gynnwys Firefox, Opera a Safari, ddod o hyd i borthiant RSS yn awtomatig. I gael rhagor o fanylion am y rhain, ewch i'w gwefannau.

Nôl i'r brig

Sut y gallaf gael Darllenydd Newyddion?

Mae amrywiaeth o ddarllenwyr newyddion gwahanol ar gael ac mae fersiynau newydd yn ymddangos drwy'r amser.

Mae darllenwyr newyddion gwahanol yn gweithio ar systemau gweithredu gwahanol, felly bydd angen i chi ystyried hyn wrth ddewis un.

Windows Mac OS X Yn seiliedig ar borwr
SharpReader Newsfire Bloglines
FeedDemon NetNewsWire My Yahoo!
Awasu   NewsGator

Nôl i'r brig

Defnyddio ein porthiant RSS Newyddion ar eich gwefan

Rydym yn annog pobl i ddefnyddio ein porthiant RSS Newyddion fel rhan o wefan, yn amodol ar ein Telerau ac Amodau .

Fodd bynnag, bydd angen defnyddio'r fformat a'r priodoliad cywir pan fydd ein cynnwys Newyddion yn ymddangos. Dylai testun y priodoliad ddarllen "Newyddion GwerthwchiGymru" neu "O Newyddion GwerthwchiGymru" fel y bo'n briodol. Ni chaniateir i chi ddefnyddio u

Rydym yn cadw'r hawl i atal ein cynnwys Newyddion rhag cael ei ddosbarthu. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael cyfarwyddiadau pellach.

Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ein porthiant RSS. Gweler y Telerau ac Amodau i gael manylion llawn.

Nôl i'r brig


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.