Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Telerau ac Amodau

Crynodeb

1 Cyflwyniad

1.1 Rheolir y defnydd o wefan GwerthwchiGymru (www.gwerthwchigymru.llyw.cymru) gan y telerau ac amodau isod.

1.2 Dylech dreulio amser yn eu darllen yn ofalus oherwydd, drwy ddefnyddio'r Wefan, tybir eich bod wedi derbyn y telerau ac amodau hyn ('Telerau Defnyddwyr') a'n hysbysiad preifatrwydd ('Hysbysiad Preifatrwydd') fel y gellir eu hamrywio o bryd i'w gilydd yn unol ag adran 14. Mae adrannau 10 ac 11 o'r Telerau Defnyddwyr hyn yn amlinellu rhai cyfyngiadau arnoch, ynghyd â datganiadau o'n rhwymedigaeth i chi. Os nad ydych yn cytuno i'r Telerau Defnyddwyr hyn ni ddylech ddefnyddio'r Wefan.

2 Diffiniadau

Mae gwefan yn golygu'r wefan hon www.gwerthwchigymru.llyw.cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn golygu Gweinidogion Cymru Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP, ynghyd â'u cyflogeion, asiantiaid a chontractwyr.

Mae gweithredwyr yn golygu Llywodraeth Cymru a Proactis.

Mae unrhyw gyfeiriad at ni neu ein yn golygu Llywodraeth Cymru.

Mae Proactis yn golygu Proactis Tenders Limited (Rhif y cwmni SC115090) Proactis, AB1 First Floor, 48 Huntly Street, Aberdeen, AB10 1SH, sef y cwmni sy'n gyfrifol am ddarparu'r Wefan a'i rheoli o ddydd i ddydd.

Mae gwasanaeth yn golygu'r holl wasanaethau gweithredol a ddarperir i Ddefnyddwyr mewn perthynas â defnyddio'r Wefan, gan gynnwys creu hysbysiadau tendro, lanlwytho dogfennaeth dendro, lawrlwytho dogfennau, cyhoeddi cwestiynau ac atebion, cyflwyno tendrau ar-lein a gwasanaethau cyffredinol eraill, gan gynnwys cymorth dros y ffôn neu drwy e-bost.

Mae prynwr yn golygu unrhyw Awdurdod Contractio sydd am hysbysebu Contractau Cyhoeddus a/neu unrhyw Gontractwyr Sector Preifat neu Dderbynwyr Grant sy'n hysbysebu ar y Wefan.

Mae cyflenwr yn golygu unrhyw un sydd am dendro am Gontract Cyhoeddus a hysbysebir ar y Wefan.

Mae defnyddiwr yn golygu unrhyw Gyflenwr neu Brynwr cofrestredig ac unrhyw un arall sy'n defnyddio'r Wefan.

Mae chi neu eich yn golygu chi, y Defnyddiwr, a/neu'r sefydliad sy'n eich cyflogi neu yr ydych yn defnyddio'r Wefan ar ei ran.

Mae Awdurdod Contractio yn golygu'r Wladwriaeth, awdurdodau rhanbarthol neu leol, cyrff a lywodraethir gan gyfraith gyhoeddus neu gymdeithasau a ffurfiwyd gan un neu fwy o awdurdodau neu un neu fwy o'r cyfryw gyrff a lywodraethir gan gyfraith gyhoeddus (ac asiantau sy'n gweithredu ar ran y cyfryw gyrff).

Mae Derbynnydd Grant yn golygu sefydliadau a all fod yn y sector preifat neu'r trydydd sector ac sy'n derbyn cymhorthdal, yn rhannol neu'n llawn, am gaffaeliad penodol neu sy'n derbyn grant craidd o gronfeydd cyhoeddus neu gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Contractau Cyhoeddus yn golygu contractau er budd ariannol a lunnir yn ysgrifenedig rhwng un neu fwy o weithredwyr economaidd ac un neu fwy o awdurdodau contractio ac sydd â'r nod o gyflawni gwaith, cyflenwi cynhyrchion neu ddarparu gwasanaethau.

3 Eich Rhwymedigaethau

3.1 Rydych yn cytuno (lle bo'n ofynnol) i ddarparu gwybodaeth wir, cywir, cyfredol a chyflawn amdanoch chi ac i ddiweddaru'r wybodaeth a ddarparwyd inni'n brydlon er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn wir, yn gywir, yn gyfredol ac yn gyflawn. Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth anwir, anghywir, anghyfredol neu anghyflawn (neu os bydd gennym sail resymol i amau hynny), mae gennym yr hawl i'ch gwahardd rhag defnyddio'r Gwasanaeth neu derfynu eich defnydd ohono.

3.2 Drwy gofrestru ar y Wefan rydych yn cadarnhau bod gennych yr awdurdod i weithredu ar ran y sefydliad (os o gwbl) a gynrychiolir gennych.

3.3 Os byddwch yn dewis, neu os cewch, gyfrinair, cod adnabod defnyddiwr neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o'n gweithdrefnau diogelwch, rhaid i chi drin y cyfryw wybodaeth yn gyfrinachol. Ni ddylech ei datgelu i unrhyw drydydd parti. Mae gennym yr hawl i analluogi unrhyw god adnabod defnyddiwr neu gyfrinair ar unrhyw adeg os byddwn o'r farn resymol eich bod wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaethau yn y Telerau Defnyddwyr hyn. Os byddwch yn gwybod neu'n amau bod rhywun arall yn gwybod beth yw eich cod adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, rhaid i chi roi gwybod inni ar unwaith yn help@sell2wales.gov.wales.

3.4 Os bydd y wybodaeth rydych yn ei rhoi inni adeg cofrestru yn newid, neu fod eich rheswm dros ddefnyddio'r Gwasanaeth yn newid, rydych yn gyfrifol am ein hysbysu'n ysgrifenedig ac, os yw'n berthnasol, i roi'r gorau i ddefnyddio'r Gwasanaeth os yw'r cyfryw newid yn golygu nad ydych yn cydymffurfio â'r Telerau Defnyddwyr hyn mwyach.

3.5 Mae'n gyfrifoldeb ar y sefydliad prynu i roi hysbysiad clir o brosesau a'r cyfnodau cadw gwybodaeth y gall cyflenwyr gyflwyno iddynt fel rhan o gynnig cyfle contract neu arwydd o ddiddordeb drwy borth GwerthwchiGymru , mae hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Rheoliadau Diogelu Data cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd. Dylai sefydliad prynu hysbysu cyflenwyr eu hysbysiad preifatrwydd drwy eu dogfennau caffael, h.y. gofyn i ddyfynnu neu gwahoddiad i dendro.

4 Defnyddio'r Wefan a'r Gwasanaeth

4.1 O ran yr holl wybodaeth, data, testun, ffotograffau, graffigau, sain, fideo, negeseuon neu ddeunydd arall ("Cynnwys"), p'un a yw wedi'i gyhoeddi neu ei rannu'n breifat, rydych yn deall mai'r sawl a wnaeth greu'r cyfryw Gynnwys sy'n gwbl gyfrifol amdano. Mae hyn yn golygu mai chi a defnyddwyr eraill y Gwasanaeth, ac nid ni, sy'n gwbl gyfrifol am yr holl Gynnwys a gaiff ei lanlwytho, ei gyhoeddi, ei e-bostio, ei rannu neu fel arall a ddarperir gennych chi neu nhw drwy'r Gwasanaeth.

4.2 Nid ydym yn sicrhau cywirdeb, uniondeb nac ansawdd unrhyw Gynnwys a gyhoeddir gan unrhyw drydydd parti. Nid yw'r cyfryw Gynnwys wedi'i ddilysu na'i gymeradwyo gennym. Rydych yn deall, drwy ddefnyddio'r Gwasanaeth, y gallwch ddod ar draws Cynnwys sarhaus, anweddus neu annymunol. Ni fyddwn, o dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol am y cyfryw Gynnwys gan drydydd parti, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, unrhyw wallau neu hepgoriadau mewn unrhyw Gynnwys neu unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath a achosir yn sgil defnyddio unrhyw Gynnwys.

4.3 Rydych yn gwarantu ac yn ymrwymo inni na wnewch ddefnyddio'r Gwasanaeth at unrhyw ddiben anghyfreithlon neu a waherddir o dan y Telerau Defnyddwyr hyn. Yn arbennig, rydych yn cytuno na wnewch ddefnyddio'r Gwasanaeth i wneud y canlynol:

  • cyhoeddi, rhannu, rhestru neu lanlwytho unrhyw Gynnwys sy'n anghyfreithlon, yn niweidiol, yn fygythiol, yn sarhaus, yn aflonyddgar, yn ddifenwol, yn ddi-chwaeth, yn anweddus, yn tarfu ar breifatrwydd rhywun arall, yn amharu ar y Gwasanaeth, yn gas neu'n annymunol yn hiliol, yn foesegol neu fel arall (yn ôl ein disgresiwn llwyr);
  • trin neu fel arall newid dynodwyr er mwyn cuddio man cychwyn unrhyw achos o gyfathrebu drwy'r Gwasanaeth;
  • amharu ar neu ymyrryd â gweithrediad y Gwasanaeth, y wefan sy'n cynnal y Gwasanaeth neu unrhyw weinyddion neu rwydweithiau sy'n gysylltiedig â'r Wefanhon;
  • torri unrhyw rai o gyfreithiau Cymru a Lloegr;
  • atgynhyrchu, dyblygu, copïo, gwerthu, ailwerthu neu, at unrhyw ddiben masnachol, fanteisio ar unrhyw ran o'r Gwasanaeth, defnydd o'r Gwasanaeth neu fynediad i'r Gwasanaeth; neu
  • cywain neu gasglu neu storio data personol ar ddefnyddwyr eraill y Gwasanaeth.

4.4 Rydych yn cydnabod nad ydym yn sgrinio Cynnwys trydydd parti ymlaen llaw, ond, fel y Gweithredwyr, ein bod yn parhau i fod â'r hawl (ond nid y rhwymedigaeth) yn ôl ein disgresiwn llwyr i ddileu neu symud unrhyw Gynnwys sydd ar gael drwy'r Gwasanaeth. Heb gyfyngu ar y rhain, bydd gennym yr hawl i ddileu unrhyw Gynnwys sy'n torri'r Telerau Defnyddwyr hyn a/neu sy'n torri neu'n debygol o dorri deddfwriaeth neu unrhyw gyfreithiau, rheoliadau, safonau neu godau ymarfer cymwys eraill, yn niweidio ein henw da mewn unrhyw ffordd neu sydd yn ôl ein disgresiwn llwyr yn annymunol fel arall. Rydych hefyd yn cytuno bod yn rhaid i chi werthuso, ac ysgwyddo risgiau, defnyddio unrhyw Gynnwys, gan gynnwys unrhyw ddibyniaeth ar gywirdeb, cyflawnrwydd, neu ddefnyddioldeb y cyfryw Gynnwys.

4.5 Rydych yn cydnabod ac yn cytuno y cawn gadw Cynnwys a hefyd y cawn ddatgelu Cynnwys os oes angen yn ôl y gyfraith neu gan gredu'n ddidwyll bod y cyfryw achos o gadw neu ddatgelu yn rhesymol angenrheidiol er mwyn: (a) cydymffurfio â'r broses gyfreithiol; (b) gorfodi'r Telerau Defnyddwyr hyn; (c) ymateb i honiadau bod unrhyw Gynnwys yn torri hawliau trydydd partïon; neu (ch) diogelu ein hawliau, eiddo neu ddiogelwch personol, neu hawliau, eiddo neu ddiogelwch personol defnyddwyr y Gwasanaeth neu unrhyw drydydd parti.

4.6 Rydych yn deall y gall y gwaith technegol o brosesu a darparu'r Gwasanaeth, gan gynnwys eich Cynnwys, olygu (a) ei ddarparu dros rwydweithiau amrywiol; a (b) gwneud newidiadau i gydymffurfio â gofynion technegol cysylltu rhwydweithiau neu ddyfeisiau, ac addasu iddynt.

4.7 Rydych yn gyfrifol am sicrhau bod pawb sy'n defnyddio'r Wefan a/neu'r Gwasanaeth drwy eich cysylltiad rhyngrwyd yn ymwybodol o'r Telerau Defnyddwyr hyn ac unrhyw delerau ac amodau cymwys eraill, a'u bod yn cydymffurfio â nhw,

4.8 Rydych yn cadarnhau os bydd gennym sail resymol i gredu na all un o ddefnyddwyr y Gwasanaeth (am ba bynnag reswm) gael gafael ar eu manylion cofrestredig ar y Wefan, y cawn addasu, archifo neu ddileu'r manylion hynny fel sy'n briodol yn ein barn ni.

4.9 Rydych yn cydnabod nad yw eich defnydd o'r Wefan na'r ffaith i chi gofrestru eich manylion yn gyfystyr mewn unrhyw ffordd â'ch cefnogi chi na'ch sefydliad nac unrhyw un o'i gynhyrchion na'i wasanaethau ac na wnewch yn benodol, nac fel arall, gyfeirio at unrhyw achos o'ch cefnogi, oni fyddwch wedi derbyn ein caniatâd ysgrifenedig.

4.10 Byddwch yn ein hysbysu cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl o unrhyw Gynnwys sydd, yn eich barn chi, yn torri'r Telerau Defnyddwyr hyn.

4.11 Ni ddylech gamddefnyddio'r Wefan na'r Gwasanaeth drwy gyflwyno gan wybod firysau, ymwelwyr diwahoddiad, mwydod neu ddeunydd arall maleisus neu dechnolegol niweidiol. Ni ddylech geisio cael mynediad heb awdurdod i'r Wefan na'r Gwasanaeth, y gweinydd lle caiff y Wefan a'r Gwasanaeth eu cadw nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig â'r Wefan. Chi sy'n gyfrifol am gyflunio eich technoleg gwybodaeth, rhaglenni cyfrifiadurol a llwyfan er mwyn defnyddio'r Wefan a'r Gwasanaeth. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd amddiffyn rhag firysau eich hun.

4.12 Wrth ddefnyddio'r Wefan a/neu'r Gwasanaeth byddwch yn gwneud y canlynol (ac yn sicrhau bod eich swyddogion, cyflogeion a chontractwyr yn gwneud y canlynol hefyd): (a) glynu wrth unrhyw bolisïau, rheolau, codau ymarfer, gweithdrefnau a safonau y mae'n rhaid inni gydymffurfio â nhw; a (b) cydymffurfio ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys, heb gyfyngiad, y cyfreithiau a'r rheoliadau hynny sy'n gymwys i Gontractau Cyhoeddus.

4.13 Wrth gyrchu a defnyddio'r Gwasanaeth mae'n ofynnol i chi, o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, gydymffurfio â'r safonau ymddwyn perthnasol sy'n ymwneud â'r Gymraeg fel y gallwn ni, neu Gomisiynydd y Gymraeg, eich hysbysu ohonynt o bryd i'w gilydd.

5 Hawlfraint

5.1 Mae'r rhan fwyaf o'r deunydd sydd ar y Wefan yn hawlfraint y Goron.

5.2 Cewch ddefnyddio ac ailddefnyddio unrhyw ddeunydd ar y Wefan sy'n hawlfraint y Goron, heblaw am yr Arfau Brenhinol, unrhyw logos adrannol neu asiantaethol neu unrhyw enwau, logos neu ddelweddau sy'n adnabod Llywodraeth Cymru, am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng yn unol â thelerau ac amodau'r Drwydded Llywodraeth Agored ar yr amod y caiff ei atgynhyrchu'n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Lle caiff unrhyw rai o eitemau hawlfraint y Goron y Wefan eu hailgyhoeddi neu eu copïo i eraill, rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod statws yr hawlfraint.

5.3 Nid yw caniatâd i ailgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan y Goron yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y Wefan a nodir yn hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael awdurdodiad i atgynhyrchu'r cyfryw ddeunydd gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.

5.4 Mae pob enw, delwedd a logo ar y Wefan sy'n adnabod Llywodraeth Cymru yn nodau perchenogol Llywodraeth Cymru. Yn arbennig, ni sy'n berchen ar enwau a logos GwerthwchiGymru ac ni chewch ddefnyddio'r enw na'r logos hyn mewn unrhyw ddeunydd hysbysebu neu hyrwyddo heb gael ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Ni chaniateir copïo na defnyddio'r logos hyn a/neu unrhyw logos arall sydd ar gael drwy'r Wefan heb gael caniatâd y perchennog perthnasol ymlaen llaw.

5.5 Dylid anfon unrhyw geisiadau am ganiatâd i ddefnyddio unrhyw enwau a/neu logos at Dîm Brandio Cyfathrebu Corfforaethol Llywodraeth Cymru: email BrandingQueries@llyw.cymru

5.6 Drwy lanlwytho Cynnwys i'r Wefan, rydych yn rhoi trwydded inni nad yw'n gyfyngol i ddefnyddio'r Cynnwys hwnnw. Er mai chi fydd yn berchen ar yr hawlfraint yn y Cynnwys hwnnw o hyd, bydd gennym yr hawl i ddefnyddio, golygu, addasu, atgynhyrchu, cyhoeddi a/neu ddosbarthu'r deunydd yn eich Cynnwys. Bydd y drwydded hon am ddim, yn wastadol ac yn gallu cael ei his-drwyddedu a gallwn arfer pob hawl sy'n bod o fewn eich Cynnwys i'w graddau llawn ac am y cyfnod llawn y bydd y cyfryw hawliau'n bodoli.

6 Indemniad

6.1 Rydych drwy hyn yn llwyr gytuno i indemnio, parhau i indemnio a'n diogelu ni neu unrhyw un o'n swyddogion, cyflogeion, asiantau, isgontractwyr a chwmnïau cysylltiedig rhag ac yn erbyn unrhyw a phob cost, hawliad, colled, iawndal neu rwymedigaeth a thraul (gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i ffioedd cyfreithiol) a wneir gan unrhyw drydydd parti mewn unrhyw awdurdodaeth yn sgil neu'n deillio o'ch defnydd o'r Gwasanaeth, eich cysylltiad â'r Gwasanaeth, unrhyw Gynnwys a gaiff ei lanlwytho gennych, torri'r Telerau Defnyddwyr neu unrhyw achos arall o dorri hawliau trydydd parti gennych.

7 Addasu, Gwahardd a Therfynu'r Gwasanaeth

7.1 Cadwn yr hawl ar unrhyw adeg ac o bryd i'w gilydd yn ôl ein disgresiwn llwyr a chyda neu heb rybudd i addasu neu atal, dros dro neu'n barhaol, y Gwasanaeth (neu unrhyw ran ohono) neu'ch defnydd unigol o'r Gwasanaeth. Rydych yn cytuno na fyddwn yn atebol i chi nac i unrhyw drydydd parti am y cyfryw achos o addasu, gwahardd neu derfynu'r Gwasanaeth.

7.2 Mae ein hawliau o dan yr adran hon yn ychwanegol at ein holl hawliau a rhwymedïau eraill ac nid ydynt yn effeithio arnynt.

8 Defnyddio a Storio

8.1 Rydych yn cytuno nad ydym yn gyfrifol nac yn atebol am unrhyw achos o ddileu neu fethu â storio unrhyw negeseuon a deunydd cyfathrebu arall a gedwir neu a rennir gan y Gwasanaeth. Rydych yn cydnabod ymhellach ein bod yn cadw'r hawl i newid yr arferion cyffredinol hyn yn ôl ein disgresiwn llwyr gyda neu heb rybudd.

9 Dolenni Trydydd Parti

O bryd i'w gilydd efallai y bydd y Gwasanaeth yn cynnwys dolenni i wefannau a weithredir gan bartïon heblaw amdanom ni. Caiff y dolenni hyn eu darparu er hwylustod i chi yn unig a gallant gael eu darparu gennym ni neu gan ddefnyddwyr eraill y Gwasanaeth. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y gwefannau hyn ac nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y cyfryw wefannau. Drwy gynnig y dolenni hyn, nid ydym yn ddatganedig nac yn oblygedig yn cefnogi unrhyw beth a geir ar y cyfryw wefannau. Rydym hefyd yn eithrio'n bendant unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddeunydd anghywir, sarhaus, difenwol neu anweddus sy'n ymddangos ar y gwefannau hyn.

10 Ymwadiad Gwarantiadau

10.1 Rydych yn deall ac yn cytuno'n bendant eich bod yn defnyddio'r Gwasanaeth hwn ar eich menter eich hun. Darperir y Gwasanaeth ar sail "fel y mae" ac "fel mae ar gael". Ni wnawn, yn glir, unrhyw warantiadau o unrhyw fath o ran y Gwasanaeth, boed yn ddatganedig neu'n oblygedig, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, y gwarantiadau ymhlyg o ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, y defnydd o ofal a sgil resymol a dim tresmasu.

10.2 Yn arbennig, ni wnawn unrhyw warantiad o ran (i) y bydd y Gwasanaeth yn bodloni eich gofynion; (ii) na therfir ar y Gwasanaeth ac y bydd yn amserol, yn ddiogel neu heb wall; (iii) y bydd y canlyniadau y gellir eu cael o ddefnyddio'r Gwasanaeth yn gywir neu'n ddibynadwy; (iv) y bydd ansawdd unrhyw gynhyrchion, gwasanaethau, gwybodaeth neu ddeunydd arall a geir gennych drwy'r Gwasanaeth yn bodloni eich disgwyliadau; (v) y caiff unrhyw wallau yn y Feddalwedd eu cywiro; a (vi) nad oes gan y Wefan unrhyw firysau neu nad yw'r Wefan yn cynnwys unrhyw beth a all fod â nodweddion dinistriol.

10.3 Bydd unrhyw Gynnwys a gaiff ei lawrlwytho neu fel arall sy'n dod i'ch rhan drwy ddefnyddio'r Gwasanaeth yn cael ei wneud yn ôl eich disgresiwn a'ch menter eich hun ac rydych yn deall ac yn cytuno y byddwch yn gwbl gyfrifol am unrhyw achos o ddifrodi'ch system gyfrifiadurol neu golli data yn sgil lawrlwytho unrhyw Gynnwys o'r fath.

10.4 Heb effeithio ar y darpariaethau eraill yn Adran 10, ni wnawn unrhyw gynrychioliadau o ran y wybodaeth a roddir ar y Wefan (boed hynny'n ymwneud â'i chywirdeb, digonolrwydd, cyflawnrwydd neu fel arall) a chi sy'n gyfrifol am geisio eich cyngor annibynnol eich hun cyn gweithredu ar ei sail a hefyd o ran unrhyw ddefnydd a wnewch ohoni.

11 Graddau Atebolrwydd

Ni fyddwn, o dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol am unrhyw golled na difrod, boed mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol, neu fel arall, hyd yn oed os gellid ei ragweld, sy'n deillio o'ch defnydd o'r Gwasanaeth neu sy'n gysylltiedig â hynny, gan gynnwys, heb gyfyngiad, iawndal am golli data, colli elw, colli cyfle busnes neu golled sy'n gysylltiedig â: (i) defnyddio'r Gwasanaeth neu ei berfformiad; a/neu (ii) unrhyw oedi neu fethiant i ddefnyddio'r Gwasanaeth; a/neu (iii) unrhyw wybodaeth, cynhyrchion neu wasanaethau a geir drwy'r Gwasanaeth; ond ni fydd unrhyw beth yn y Telerau Defnyddwyr hyn yn cyfyngu ar ein rhwymedigaeth o ran unrhyw ddatganiad twyllodrus neu anaf personol neu farwolaeth a achosir gan ein hesgeulustod.

12 Eithriadau a Chyfyngiadau

Nid yw rhai awdurdodaethau yn caniatáu eithrio rhai gwarantiadau neu gyfyngu ar neu eithrio atebolrwydd am iawndal cysylltiedig neu ganlyniadol. Yn unol â hynny, efallai na fydd rhai o'r cyfyngiadau yn Adrannau 10 ac 11 yn gymwys i chi.

13 Cyffredinol

13.1 Gall unrhyw hysbysiadau o dan y Telerau Defnyddwyr hyn gael eu rhoi i chi drwy e-bost neu bost safonol.

13.2 Ni fydd unrhyw ildiad gennym o ran torri'r Telerau Defnyddwyr hyn gennych yn cael ei ystyried yn ildiad o ran unrhyw achos dilynol o dorri'r un ddarpariaeth neu unrhyw ddarpariaeth arall.

13.3 Bydd y Telerau Defnyddwyr hyn a'r Hysbysiad Preifatrwydd yn llywodraethu eich defnydd o'r Gwasanaeth, sy'n drech nag unrhyw delerau ac amodau eraill.

13.4 Os bydd unrhyw achos o ddarparu'r Telerau Defnyddwyr hyn neu ran ohonynt yn ddi-rym am ba reswm bynnag, tybir bod y geiriau sarhaus wedi'u dileu a bydd y darpariaethau sy'n weddill yn parhau mewn grym llawn.

13.5 Mae eich hawliau a'ch rhwymedigaethau o dan y Telerau Defnyddwyr hyn yn bersonol i chi ac rydych yn ymrwymo na fyddwch yn neilltuo, yn prydlesu, yn ymddiried, yn is-drwyddedu nac fel arall yn trosglwyddo'r cyfryw hawliau a rhwymedigaethau yn rhannol neu'n llawn, nac yn ymhonni hynny.

13.6 Ni fydd unrhyw beth yn y Telerau Defnyddwyr hyn (fel y’i diwygir gennym o bryd i'w gilydd) yn creu unrhyw hawl na budd i unrhyw drydydd parti o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999. Nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw hawl na rhwyemedi sydd gan drydydd parti sy'n bodoli neu sydd ar gael ar wahân i o dan y Ddeddf honno.

13.7 Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled a brofir gennych neu lle tybir ein bod heb gyflawni yn sgil unrhyw oedi neu fethiant i berfformio sy'n deillio o weithredoedd neu achosion y tu hwnt i'n rheolaeth resymol neu unrhyw weithredoedd gan Dduw, deddfau neu reoliadau unrhyw awdurdod llywodraethol neu uwch-genedlaethol neu os na fydd ein gweinyddion yn gweithio.

13.8 Caiff penawdau adrannau eu cynnwys er hwylustod yn unig ac ni fyddant yn effeithio ar ddehongliad y Telerau Defnyddwyr hyn.

14 Diweddaru'r Telerau Defnyddwyr hyn a'r Wefan

Gallwn amrywio'r Telerau Defnyddwyr hyn a/neu'r Hysbysiad Preifatrwydd drwy gyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y Wefan. Gall y Gwasanaeth roi gwybod am newidiadau i'r Telerau Defnyddwyr hyn neu faterion eraill drwy gyhoeddi hysbysiadau neu ddolenni i hysbysiadau i chi'n gyffredinol ar y Gwasanaeth. Rydych yn gyfrifol am adolygu'r Telerau Defnyddwyr hyn yn rheolaidd er mwyn cael gwybod am y cyfryw newidiadau. Gallwn hefyd ddiweddaru a newid y Wefan o bryd i'w gilydd. Drwy ddefnyddio'r Wefan ar ôl unrhyw newid o'r fath rydych yn derbyn y Telerau Defnyddwyr newydd ac unrhyw newidiadau i'r Wefan.

15 Cyfathrebu â Defnyddwyr

O bryd i'w gilydd, anfonir negeseuon gan y Gweithredwyr at Ddefnyddwyr cofrestredig sy'n cynnwys gwybodaeth sy'n berthnasol i'r Wefan, megis hysbysiad o brosiectau caffael mawr, newidiadau i bolisïau neu reolau caffael, a newidiadau neu broblemau gyda'r Wefan. Hefyd, o bryd i'w gilydd gallwn gynnal arolygon ymhlith Defnyddwyr er mwyn cael eu hadborth am y Wefan. Mae GwerthwchiGymru yn rhan o raglen ehangach o gymorth busnes gan Lywodraeth Cymru a gall Defnyddwyr gael manylion cymorth priodol arall.

16 Anghydfodau

Os bydd gan unrhyw Ddefnyddiwr gŵyn neu achwyniad am y Wefan a/neu'r Gwasanaeth dylai, yn y lle cyntaf, gysylltu â help@sell2wales.gov.wales neu ysgrifennu at Rheolwr GwerthwchiGymru, Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9RZ er mwyn ceisio datrys y broblem. Nid yw hyn yn effeithio ar hawliau statudol na hawliau cymwys eraill y Defnyddiwr.

17 Cyfraith Lywodraethu ac Awdurdodaeth

Caiff y Telerau Defnyddwyr hyn eu llywodraethu a'u llunio yn ôl cyfreithiau Cymru a Lloegr fel sy'n gymwys yng Nghymru ac felly rydych chi a ninnau yn cytuno drwy hyn i ymostwng i awdurdodaeth benodol Llysoedd Cymru a Lloegr.

18 Polisi cwcis

Darn bach o ddata (ffeil testyn) yw cwci. Pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan, bydd yn gofyn i'ch porwr storio cwcis ar eich dyfais er mwyn cofio gwybodaeth amdanoch, fel eich dewis iaith neu wybodaeth fewngofnodi. Mae'r cwcis hynny'n cael eu gosod gennym ni a'u galw'n cwcis parti cyntaf. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis trydydd parti sy'n gwcis o barth ar wahân i barth y wefan rydych yn ymweld â hi; Mae'r cwcis hyn ar gyfer ein hymdrechion hysbysebu a marchnata. 
Rydym wedi trefnu'r cwcis hyn yn dri grŵp ar wahân; Swyddogaethol, Perfformiad a chwbl angenrheidiol, sy'n cael eu disgrifio yn yr adrannau priodol isod. Caiff y grwpiau hyn eu rhannu ymhellach i nodi pa gwcis sy'n cael eu defnyddio yn ystod defnydd o'r Wefan ac sy'n cael eu defnyddio wrth ddefnyddio'r Cynnyrch. Mae'r manylion isod am bob cwci a ddefnyddir yn cynnwys enw'r cwci, boed yn gyntaf neu'n drydydd parti a'r hyd y mae'r cwci yn weithredol.

Cwcis Hollol Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn angenrheidiol i'r wefan weithredu ac ni ellir eu diffodd yn ein systemau. Fel arfer, dim ond mewn ymateb i gamau a wneir gennych chi sy'n gyfystyr â chais am wasanaethau, megis gosod eich dewisiadau preifatrwydd, mewngofnodi neu lenwi ffurflenni. Gallwch osod eich porwr i'ch rhwystro neu dynnu eich sylw am y cwcis hyn, ond ni fydd rhai rhannau o'r safle wedyn yn gweithio. Nid yw'r cwcis hyn yn storio unrhyw wybodaeth adnabod yn bersonol.

Enw Cwcis

Math o Gwcis

Disgrifiad cwcis

Cwci'n dod i ben

TDCookieConsent

HTTP GwerthwchiGymru Defnyddir y cwci hwn i olrhain dewisiadau marchnata defnyddwyr

1 Blwyddyn

ASP.NET_SessionId

Sesiwn GwerthwchiGymru Defnyddir y cwci hwn i barhau â'r sesiwn defnyddiwr ar y wefan.

Diwedd y sesiwn

__AntiXsrfToken

Sesiwn
GwerthwchiGymru Yn helpu i gadw'r wefan yn ddiogel.
Diwedd y sesiwn
 TDE Sesiwn Defnyddir y cwci hwn i awdurdodi sesiwn y defnyddiwr gyda'r wefan (h.y. beth sy'n cadw'r defnyddiwr wedi mewngofnodi)
Diwedd y sesiwn 

Gallwch addasu eich dewisiadau trwy'r Tudalen Polisi Cwicis.

Cwcis perfformiad

Mae'r cwcis hyn yn ein galluogi i gyfrif ymweliadau a ffynonellau traffig, fel y gallwn fesur a gwella perfformiad ein safle. Mae'r wybodaeth a gesglir trwy'r cwcis hyn yn cyfangu ac felly'n ddienw. Mae'r wybodaeth gyfanredol yn cynnwys pa dudalennau yw'r rhai mwyaf a lleiaf poblogaidd ac yn cynghori Proactis ar sut mae ymwelwyr yn symud o amgylch y safle. Os na fyddwch yn caniatáu'r cwcis hyn, ni fyddwn yn gwybod pryd rydych wedi ymweld â'n safle.

Enw cwcis

Math o gwcis

Disgrifiad cwcis

Cwci'n dod i ben

_ga

Google Universal Analytics
 Defnyddir y cwci hwn i wahaniaethu rhwng defnyddwyr unigryw trwy neilltuo rhif a gynhyrchir ar hap fel dynodwr cleient.

2 flynedd

_gat_*

 Google Analytics Defnyddir y cwci hwn i wthio'r gyfradd gais

1 munud

_gid

Google Universal Analytics
 Defnyddir y cwci hwn i storio a diweddaru gwerth unigryw ar gyfer pob tudalen yr ymwelwyd â hi. 2 flynedd
 _fbp Facebook
Fe'i defnyddir i adnabod defnyddwyr ar draws tudalennau gwe lle mae picsel Facebook wedi'i osod. Mae'r picsel yn awtomatig yn arbed dynodwr unigryw i gwci _fbp ar gyfer parth y wefan os nad oes un yn bodoli eisoes. 3 misoedd

Byddwn yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd ac yn postio unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen hon. Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis Mehefin 2023.

Mae Proactis Tenders Limited, sef un o Weithredwyr y Wefan, wedi'i gofrestru ar Gofrestr Diogelu Data'r DU o dan Rif Z9969163.

19 Cofrestru

19.1 Nid oes rhaid i chi gofrestru er mwyn pori drwy'r wybodaeth ar y Wefan, ond bydd angen i chi gofrestru'ch manylion gyda ni os ydych am 'Fynegi eich diddordeb' neu lawrlwytho'r dogfennau ychwanegol a ddarperir gydag unrhyw gyfleoedd i ennill contract.

19.2 Caiff y wybodaeth gofrestru a ddarparwch inni at y dibenion hyn ei storio'n ddiogel yn ein cronfa ddata a chaiff unrhyw ddata personol a ddarparwch eu trin yn unol â thelerau'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn.

19.3 Gallwch newid eich dewisiadau cofrestru, eich cyfeiriad e-bost a'ch manylion mewngofnodi drwy'r Wefan unrhyw bryd. Os nad oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio'r Gwasanaeth mwyach gallwch ddileu eich cyfrif ar eich tudalen proffil personol.

20 Gwefannau Eraill

20.1 Rydym yn cynnwys dolenni o'r Wefan i wefannau eraill sy'n cynnwys gwybodaeth y credwn a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid ydym yn gwneud unrhyw ddatganiadau ynglŷn ag ansawdd, na chywirdeb y gwefannau na'u telerau gweithredu, er enghraifft, eu polisïau preifatrwydd.

20.2 Efallai y byddwn yn cynnig ffrwd allbwn data i gyflenwyr eraill.

20.3 Er bod y Wefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill, dylech nodi nad ydym yn gyfrifol am arferion preifatrwydd na pholisïau eraill perchenogion a gweithredwyr y gewfannau hynny. Felly, rydym yn eich annog i ddarllen y datganiad a'r polisïau preifatrwydd ar bob Gwefan y gofynnir i chi gyflwyno gwybodaeth bersonol iddi.


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.