Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad o Ddyfarnu Contract

Gwasanaeth Cefnogaeth Cyfreithiol, Polisi a Chydymffurfiaeth ar gyfer Cynnwys S4C

  • Cyhoeddwyd gyntaf: 07 Rhagfyr 2015
  • Wedi'i addasu ddiwethaf: 07 Rhagfyr 2015
  • Fersiwn: N/A
  •  

  • Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch.

  •  

Eicon Gwybodaeth

Nid yw'r prynwr yn defnyddio'r wefan hon i weinyddu'r hysbysiad.

I gofnodi eich diddordeb neu gael gwybodaeth neu ddogfennau ychwanegol, darllenwch y cyfarwyddiadau yn Nhestun Llawn yr Hysbysiad. (NODER: Nid oes angen ymateb i Hysbysiadau Dyfarnu Contractau a Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw fel arfer)

Cynnwys

Crynodeb

OCID:
ocds-kuma6s-031508
Cyhoeddwyd gan:
S4C
ID Awudurdod:
AA0674
Dyddiad cyhoeddi:
07 Rhagfyr 2015
Dyddiad Cau:
-
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Ddyfarnu Contract
Mae ganddo ddogfennau:
Nac Ydi
Wedi SPD:
Nac Ydi
Mae ganddo gynllun lleihau carbon:
AMH

Crynodeb

S4C yw’r unig sianel deledu Gymraeg yn y byd ac un o’r pum darlledwr teledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU. Mae’n awdurdod darlledu annibynnol a sefydlwyd o dan Ddeddf Darlledu 1981, ac mae’n cael ei rheoleiddio gan Ddeddf Gyfathrebu 2003 a’r Ddeddf Darlledu 1990. Mae S4C yn darparu ystod eang o raglenni amrywiol o safon uchel. Mae’r sianel yn darlledu dros 115 awr o raglenni Cymraeg bob wythnos. Mae rhaglenni S4C ar gael i’w gwylio’n fyw ar wefan S4C trwy fandllydan a’r gwasanaeth gwylio ar alw ar wefan s4c.cymru, trwy iPlayer y BBC ac ar YouView, teledu clyfar, Sky, Freeview a nifer o blatfformau eraill. Mae S4C wedi’i hariannu mewn ffordd unigryw trwy gymysgedd o arian grant, incwm masnachol a hysbysebu. Yn ogystal mae'r BBC yn darparu 10 awr o raglenni Cymraeg i S4C wedi ei ariannu gan y ffi drwydded. Mae’r Gwasanaeth sy’n destun i’r tendr yn gofyn i’r darparwr ddarparu’r canlynol er mwyn cefnogi cynhyrchwyr rhaglenni sy’n darparu rhaglenni i S4C o fewn cyd-destun cyfreithiol: • cyngor yn gysylltiedig â phob deddfwriaeth, polisi (gan gynnwys polisïau S4C), codau ymarfer perthnasol (gan gynnwys defnydd ymarferol o God Ofcom) a chanllawiau gweithredol sy’n berthnasol i gynhyrchu cynnwys clyw-weledol gan gynnwys, heb gyfyngiad, materion yn ymwneud â iechyd a diogelwch, diogelu data, hawlfraint, y Gyfeireb Oriau Gwaith, deddfwriaeth pensiwn, deddfwriaeth llwgrwobrwyo, cytundebu a diogelu plant a phobl fregus a materion cydymffurfiaeth rhaglenni/cyfreithiol gan gynnwys sicrhau dosbarthiad effeithiol o ddiweddariadau rheolaidd ar ddeddfwriaeth, codau a chanllawiau sy’n newydd neu’n newid; • gwybodaeth a chyngor cywir a chynhwysfawr yn ymwneud ag ystod llawn o drefniadau cytundebol rhwng cwmnïau cynhyrchu ar un llaw a deiliaid hawliau/cyfranwyr i gynnwys ar y llaw arall ac arweiniad ar sut i sicrhau cliriadau ar gyfer pob hawl a chaniatâd priodol ar gyfer rhaglenni S4C yn ymarferol, yn unol â chytundebau trwydded S4C gan gynnwys cyngor ar reolau cystadlaethau, cytundebau diogelu data a chymalau sy’n sicrhau pob caniatâd priodol ar gyfer prosesu data; • gwasanaeth cytundebau safonol ac anarferol (gan gynnwys stôr o gynseiliau cyfredol) ar draws gweithgareddau cynhyrchu a chyflogi cwmnïau cynhyrchu sy’n adlewyrchu gofynion cytundebu ac eraill S4C gan gynnwys cytundebau cyfranwyr (gyda chymalau caniatâd a diogelu data priodol), cytundebau lleoliad, cytundebau ffotograffwyr, cytundebau cast a chriw, cytundebau awduron, cytundebau cyfansoddwyr a thelerau ac amodau cystadlaethau; • hybu perthnasau diwydiannol da o fewn y sector a chynnal perthnasau gyda’r undebau (WGGB, Equity, BECTU, MU a DUK ar hyn o bryd) a chymdeithasau casglu (e.e. MCPS, PRS, ALCS neu eraill) sy’n cynrychioli cyfranwyr cynnwys neu ddeiliaid hawliau trydydd parti; cynrychioli’r sector annibynnol a gofynion S4C yn ystod trafodaethau ar drefniadau cyflogi a thrwyddedu (gan gynnwys fframweithiau hawliau a ffioedd) gydag undebau a chymdeithasau casglu ar delerau safonol ac anarferol ill dau, lle’n berthnasol, gan ystyried gofynion hawliau newydd a/neu hawliau ar gyfer prosiectau arbennig; • cyngor yn ymwneud â materion cytundebol, cyflogaeth a materion busnes; • gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth mewn perthynas â chytundebau gyda’r undebau a chymdeithasau casglu ac mewn perthynas â’r stôr o gynseiliau y cyfeiriwyd ato uchod; • gwasanaeth cynghori a datrys gweithredol mewn perthynas ag unrhyw anghydfodau rhwng y cwmnïau cynhyrchu a’r rhai y maent yn eu cyflogi boed trwy gytundeb, cymodi, cyfryngu neu gyflafareddiad, gan gydnabod hawl yr unigolyn i gael cynrychiolaeth; • hybu ymarfer da ar draws pob gweithgarwch cynhyrchu, cytundebu a chyflogaeth; • darparu canllawiau ac anogaeth i’r sector gynhyrchu annibynnol i ymgorffori amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal ar draws pob agwedd o gyflogi; • cymryd rhan, lle’n briodol, mewn sesiynau briffio S4C i’r sector. Bydd gofyn i’r Tendrwr llwyddiannus ddarparu Gwasanaeth a all gynnig yr agweddau, safonau a sgilia

Testun llawn y rhybydd

HYSBYSIAD O DDYFARNU CONTRACT - CENEDLAETHOL

SERVICES

1 Manylion yr Awdurdod

1.1

Enw a Chyfeiriad yr Awdurdod


S4C

Parc Ty Glas, Llanishen,

Cardiff

CF14 5DU

UK

Angharad Evans

+44 2920741227


www.s4c.cymru

2 Manylion y Contract

2.1

Teitl

Gwasanaeth Cefnogaeth Cyfreithiol, Polisi a Chydymffurfiaeth ar gyfer Cynnwys S4C

2.2

Disgrifiad o'r contract

S4C yw’r unig sianel deledu Gymraeg yn y byd ac un o’r pum darlledwr teledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU. Mae’n awdurdod darlledu annibynnol a sefydlwyd o dan Ddeddf Darlledu 1981, ac mae’n cael ei rheoleiddio gan Ddeddf Gyfathrebu 2003 a’r Ddeddf Darlledu 1990.

Mae S4C yn darparu ystod eang o raglenni amrywiol o safon uchel. Mae’r sianel yn darlledu dros 115 awr o raglenni Cymraeg bob wythnos. Mae rhaglenni S4C ar gael i’w gwylio’n fyw ar wefan S4C trwy fandllydan a’r gwasanaeth gwylio ar alw ar wefan s4c.cymru, trwy iPlayer y BBC ac ar YouView, teledu clyfar, Sky, Freeview a nifer o blatfformau eraill.

Mae S4C wedi’i hariannu mewn ffordd unigryw trwy gymysgedd o arian grant, incwm masnachol a hysbysebu. Yn ogystal mae'r BBC yn darparu 10 awr o raglenni Cymraeg i S4C wedi ei ariannu gan y ffi drwydded.

Mae’r Gwasanaeth sy’n destun i’r tendr yn gofyn i’r darparwr ddarparu’r canlynol er mwyn cefnogi cynhyrchwyr rhaglenni sy’n darparu rhaglenni i S4C o fewn cyd-destun cyfreithiol:

• cyngor yn gysylltiedig â phob deddfwriaeth, polisi (gan gynnwys polisïau S4C), codau ymarfer perthnasol (gan gynnwys defnydd ymarferol o God Ofcom) a chanllawiau gweithredol sy’n berthnasol i gynhyrchu cynnwys clyw-weledol gan gynnwys, heb gyfyngiad, materion yn ymwneud â iechyd a diogelwch, diogelu data, hawlfraint, y Gyfeireb Oriau Gwaith, deddfwriaeth pensiwn, deddfwriaeth llwgrwobrwyo, cytundebu a diogelu plant a phobl fregus a materion cydymffurfiaeth rhaglenni/cyfreithiol gan gynnwys sicrhau dosbarthiad effeithiol o ddiweddariadau rheolaidd ar ddeddfwriaeth, codau a chanllawiau sy’n newydd neu’n newid;

• gwybodaeth a chyngor cywir a chynhwysfawr yn ymwneud ag ystod llawn o drefniadau cytundebol rhwng cwmnïau cynhyrchu ar un llaw a deiliaid hawliau/cyfranwyr i gynnwys ar y llaw arall ac arweiniad ar sut i sicrhau cliriadau ar gyfer pob hawl a chaniatâd priodol ar gyfer rhaglenni S4C yn ymarferol, yn unol â chytundebau trwydded S4C gan gynnwys cyngor ar reolau cystadlaethau, cytundebau diogelu data a chymalau sy’n sicrhau pob caniatâd priodol ar gyfer prosesu data;

• gwasanaeth cytundebau safonol ac anarferol (gan gynnwys stôr o gynseiliau cyfredol) ar draws gweithgareddau cynhyrchu a chyflogi cwmnïau cynhyrchu sy’n adlewyrchu gofynion cytundebu ac eraill S4C gan gynnwys cytundebau cyfranwyr (gyda chymalau caniatâd a diogelu data priodol), cytundebau lleoliad, cytundebau ffotograffwyr, cytundebau cast a chriw, cytundebau awduron, cytundebau cyfansoddwyr a thelerau ac amodau cystadlaethau;

• hybu perthnasau diwydiannol da o fewn y sector a chynnal perthnasau gyda’r undebau (WGGB, Equity, BECTU, MU a DUK ar hyn o bryd) a chymdeithasau casglu (e.e. MCPS, PRS, ALCS neu eraill) sy’n cynrychioli cyfranwyr cynnwys neu ddeiliaid hawliau trydydd parti; cynrychioli’r sector annibynnol a gofynion S4C yn ystod trafodaethau ar drefniadau cyflogi a thrwyddedu (gan gynnwys fframweithiau hawliau a ffioedd) gydag undebau a chymdeithasau casglu ar delerau safonol ac anarferol ill dau, lle’n berthnasol, gan ystyried gofynion hawliau newydd a/neu hawliau ar gyfer prosiectau arbennig;

• cyngor yn ymwneud â materion cytundebol, cyflogaeth a materion busnes;

• gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth mewn perthynas â chytundebau gyda’r undebau a chymdeithasau casglu ac mewn perthynas â’r stôr o gynseiliau y cyfeiriwyd ato uchod;

• gwasanaeth cynghori a datrys gweithredol mewn perthynas ag unrhyw anghydfodau rhwng y cwmnïau cynhyrchu a’r rhai y maent yn eu cyflogi boed trwy gytundeb, cymodi, cyfryngu neu gyflafareddiad, gan gydnabod hawl yr unigolyn i gael cynrychiolaeth;

• hybu ymarfer da ar draws pob gweithgarwch cynhyrchu, cytundebu a chyflogaeth;

• darparu canllawiau ac anogaeth i’r sector gynhyrchu annibynnol i ymgorffori amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal ar draws pob agwedd o gyflogi;

• cymryd rhan, lle’n briodol, mewn sesiynau briffio S4C i’r sector.

Bydd gofyn i’r Tendrwr llwyddiannus ddarparu Gwasanaeth a all gynnig yr agweddau, safonau a sgiliau canlynol:

- dealltwriaeth drylwyr o ofynion S4C fel comisiynydd ac fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus;

- gwasanaeth perthnasau diwydiannol pwrpasol ar gyfer y sector, sy’n rhagweithiol, proffesiynol, deallus a dwyieithog (Cymraeg/Saesneg);

- gwybodaeth gynhwysfawr a gaiff ei gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg a Saesneg ill dau ac sydd ar gael i gynhyrchwyr S4C;

- dealltwriaeth o gytundebau llafur a hawliau ar gyfer y sector – yng Nghymru a thu hwnt, yn y gorffennol a’r presennol;

- sgiliau negodi cryf;

- gwasanaeth tryloyw, atebol a dealladwy sy’n ymateb yn gyflym ac yn gywir i anghenion defnyddwyr ac sy’n dangos hyblygrwydd;

- gwasanaeth hollol gyfrinachol, gyda thîm sy’n ymddwyn yn onest ac yn ddiduedd;

- gwasanaeth sy’n darparu cyngor o’r safon uchaf;

- gwasanaeth sy’n gynrychioliadol o bob cwmni a gaiff eu comisiynu i gynhyrchu cynnwys ar gyfer S4C.

2.3

Cod a Dosbarthiad yr Hysbysiad

79100000 Legal services
79111000 Legal advisory services
1000 WALES
1010 West Wales and The Valleys
1011 Isle of Anglesey
1012 Gwynedd
1013 Conwy and Denbighshire
1014 South West Wales (Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion)
1015 Central Valleys (Merthyr Tydfil, Rhondda Cynon Taf)
1016 Gwent Valleys (Torfaen, Blaenau Gwent, Caerphilly)
1017 Bridgend and Neath Port Talbot
1018 Swansea
1020 East Wales
1021 Monmouthshire and Newport
1022 Cardiff and Vale of Glamorgan
1023 Flintshire and Wrexham
1024 Powys

2.4

Amcangyfrif o Gyfanswm Gwerth

3 Gweithdrefn

3.1

Math o Weithdrefn

Un cam

4 Dyfarnu Contract

4.1

Cynigwyr Llwyddiannus

4.1.1

Enw a Chyfeiriad y cyflenwr, contractwr neu ddarparwr gwasanaeth llwyddiannus





Capital Law Llp

Capital Building, Tyndall Street,

Cardiff

CF10 4AZ

UK

Sion Clwyd Roberts



www.capitallaw.co.uk

5 Gwybodaeth Arall

5.1

Rhif cyfeirnod a roddwyd i'r hysbysiad gan yr awdurdod contractio

N/a

5.2

Dyddiad Dyfarnu'r Contract

  07 - 12 - 2015

5.3

Nifer y tendrau a dderbyniwyd

1

5.4

Gwybodaeth Arall

(WA Ref:36576)

5.5

Dogfennaeth Ychwanegol

Dd/g

5.6

Dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn:

  07 - 12 - 2015

Codio

Categorïau nwyddau

ID Teitl Prif gategori
79100000 Gwasanaethau cyfreithiol Gwasanaethau busnes: y gyfraith, marchnata, ymgynghori, recriwtio, argraffu a diogelwch
79111000 Gwasanaethau cyngor cyfreithiol Gwasanaethau cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol

Lleoliadau Dosbarthu

ID Disgrifiad
1018 Abertawe
1022 Caerdydd a Bro Morgannwg
1013 Conwy a Sir Ddinbych
1015 Cymoedd Canalog (Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf)
1016 Cymoedd Gwent (Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili)
1000 CYMRU
1014 De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)
1020 Dwyrain Cymru
1010 Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
1012 Gwynedd
1017 Pen-y-bont ar Ogwr a Castell-Nedd Port Talbot
1024 Powys
1021 Sir Fynwy a Chasnewydd
1023 Sir y Fflint a Wrecsam
1011 Ynys Môn

Cyfyngiadau Rhanbarthol ar y Rhybuddion

Mae’r prynwr wedi cyfyngu’r rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn i gyflenwyr yn y rhanbarthau canlynol.

ID Disgrifiad
Nid oes cyfyngiadau ar y rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn.

Teulu dogfennau

Manylion hysbysiad
Dyddiad cyhoeddi:
28 Gorffennaf 2015
Dyddiad Cau:
03 Medi 2015 00:00
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Gontract
Enw Awdurdod:
S4C
Dyddiad cyhoeddi:
07 Rhagfyr 2015
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Ddyfarnu Contract
Enw Awdurdod:
S4C
Dyddiad cyhoeddi:
07 Rhagfyr 2015
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Ddyfarnu Contract
Enw Awdurdod:
S4C

Ynglŷn â'r prynwr

Prif gyswllt:
N/a
Cyswllt gweinyddol:
N/a
Cyswllt technegol:
N/a
Cyswllt arall:
N/a

Gwybodaeth bellach

Dyddiad Manylion
Nid oes unrhyw wybodaeth bellach wedi'i lanlwytho.

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.