Disgrifiad o'r contract
S4C yw’r unig sianel deledu Cymraeg yn y byd ac un o’r pum darlledwr teledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU. Mae’n awdurdod darlledu annibynnol a sefydlwyd o dan Ddeddf Darlledu 1981, ac mae’n cael ei rheoleiddio gan Ddeddf Gyfathrebu 2003 a’r Ddeddf Darlledu 1990.
Mae S4C yn darparu ystod eang o raglenni amrywiol o safon uchel. Mae’r sianel yn darlledu dros 115 awr o raglenni Cymraeg bob wythnos. Mae rhaglenni S4C ar gael i’w gwylio’n fyw ar wefan S4C trwy fandllydan a’r gwasanaeth gwylio ar alw ar wefan s4c.cymru, trwy iPlayer y BBC ac ar YouView, teledu clyfar, Sky, Freeview a nifer o blatfformau eraill.
O Ebrill 2022 ymlaen, bydd cyllid cyhoeddus S4C yn dod o ffi’r drwydded – gyda’r Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (ADdCCh) yn pennu gwerth y cyllid hwnnw. Mae S4C yn cynhyrchu incwm ychwanegol drwy weithgareddau masnachol a hysbysebu. Yn ogystal mae'r BBC yn darparu 10 awr o raglenni Cymraeg i S4C wedi ei ariannu gyfran y BBC o ffi’r drwydded.
Bydd ystod y gwaith o dan gytundeb y gwasanaeth yn cynnwys archwiliad o’r cofnodion a phrosesau cyfrifo ac eraill o flynyddoedd ariannol ar gyfer cyfnod tair blynedd cychwynnol o’r flwyddyn adrodd 2022/23, yn unol â rhaglen waith a gytunir gyda’r Pwyllgor.
Mae S4C yn amcangyfrif y byddai nifer y diwrnodau sydd eu hangen i gyflawni’r gwasanaeth tua 25 diwrnod y flwyddyn (gan gynnwys cynllunio a gweinyddu).
Mae'r rhan fwyaf o'r dogfennau sy'n ymwneud â'r gwasanaeth ar gael yn Gymraeg yn unig, felly bydd angen i’r Tendrwyr sicrhau a dangos gallu ieithyddol digonol yn eu cais.
Mae dyletswydd ar S4C i sicrhau nad oes unrhyw gymhorthdal uniongyrchol nac anuniongyrchol ar gyfer ei gweithgareddau masnachol yn dod o Gronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus. Mae dyletswydd hefyd i ymdrin ar wahân â’r Gronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus a’r Gronfa Gyffredinol. Dylai ceisiadau ddangos cynlluniau’r Tendrwr i adlewyrchu’r gofynion hyn o fewn y swyddogaeth archwilio.
Disgwylir i’r Tendrwr llwyddiannus wneud asesiad risg ar y cychwyn ac i lunio cynllun archwilio tair blynedd newydd yn ystod blwyddyn gyntaf y cytundeb.
Dylai’r Tendrwr esbonio sut y bydd yn cyfathrebu gyda’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol, fel archwilwyr allanol S4C, ac i gadarnhau y bydd yn caniatáu mynediad dilyffethair iddynt i’w papurau gweithiol.
|